BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ydych chi'n gwybod ble mae eich gwastraff yn mynd?

Refuse Sack

Fel perchennog busnes rydych chi’n gyfrifol am reoli a gwaredu eich gwastraff busnes yn ddiogel.

Gall y ffordd y rheolwch eich gwastraff gostio’n ddrud i’ch busnes o ran arian ac enw da os nad ydych yn ei waredu’n gywir.

Edrychwch ar y wefan Right Waste Right Place i gael gwybodaeth fanwl am sut i waredu gwastraff busnes a’ch helpu i ddeall eich cyfrifoldebau.

Os ydych yn cynhyrchu, cludo, mewnforio, cadw, trin neu waredu gwastraff, mae gennych ddyletswydd gofal gyfreithiol i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei drin yn ddiogel, ac mai dim ond i’r bobl sydd ag awdurdod i’w dderbyn y bydd yn cael ei drosglwyddo.

Os ydych yn cludo gwastraff fel rhan o’ch busnes, bydd angen ichi gofrestru fel cludydd gwastraff. Edrychwch ar ein tudalen Cludwyr Gwastraff i gael mwy o wybodaeth.

Os caiff eich gwastraff ei gasglu gan rywun arall, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr unigolyn hwnnw’n gludydd gwastraff cofrestredig a’i fod yn mynd â’ch gwastraff i safle sydd wedi’i awdurdodi i’w dderbyn.

Boed yn berchennog tŷ, yn landlord preifat, yn berchennog busnes, yn gludwr gwastraff, neu’n aelod o’r gymuned, mae Taclo Tipio Cymru yn cynnig y cyngor angenrheidiol i gael gwared ar eich gwastraff yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol: Cyngor (flytippingactionwales.org)

Mae Taclo Tipio Cymru yn fenter bartneriaeth a noddir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Gyfoeth Naturiol Cymru i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.