BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy

Image removed.

Dau safle unigryw yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae asedau naturiol a threftadaeth ddiwydiannol a milwrol yr Ardal yn cyfuno i gynnig amgylchedd delfrydol a diogel ar gyfer busnesau sy’n gweithio ym maes ynni carbon isel, TGCh, radioisotop meddygol neu’r maes awyrofod.

Mae Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, sy’n 2,000 hectar (4942 erw) yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yn gartref i weithgynhyrchu modern, medrus iawn ar draws amrywiaeth o sectorau – o awyrofod a modurol i electroneg a gwasanaethau fferyllol, adeiladu, bwyd ac ynni cynaliadwy. 

  • Treftadaeth gweithgynhyrchu gref, technoleg a sgiliau gweithgynhyrchu blaengar.
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch ar draws amrywiaeth eang o sectorau.
  • Wedi’i lleoli ar lwybr TEN-22, 30-60 munud i nifer o borthladdoedd a meysydd awyr mawr a munudau o rwydwaith traffyrdd y DU.
  • Sylfaen boblogaeth fawr o fewn pellter cymudo.
  • Datblygu sgiliau gweithgynhyrchu uwch o safon fyd-eang ac ymchwil gan AMRC Cymru, colegau a phrifysgolion lleol.
  • Amrywiaeth o leoedd fforddiadwy, o adeiladau newydd, parod i fynd i safleoedd datblygu mawr.

Mae Gogledd Ddwyrain Cymru yn lleoliad gweithgynhyrchu o bwys gyda chryfderau sylweddol yn y sectorau awyrofod, modurol, adeiladu, bwyd, papur a phecynnu, electroneg, ac ynni cynaliadwy.

Gyda’i sgiliau a’i threftadaeth gweithgynhyrchu uwch, mae Glannau Dyfrdwy eisoes yn ganolfan i nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu rhyngwladol mawr fel Airbus, Toyota, a James Fisher, ond mae’n cynnig digon o le a chyfleoedd i fusnesau newydd. 

Mae’r Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC Cymru), a ddatblygwyd yn yr Ardal, yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygu, datblygu sgiliau, a masnacheiddio technoleg. 

Mae safle 90 hectar sy’n barod i’w ddatblygu ar gael gyda chaniatâd cynllunio llawn; mae ardal arall yn canolbwyntio ar fusnesau ynni cynaliadwy; ac mae gan ein parc awyrofod ei Ganolfan Ymchwil, Hyfforddi a Datblygu Uwchgyfansoddion ei hun.

Yr ardaloedd a’r safleoedd ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy

  • Porth y Gogledd.
  • Parc Busnes Penarlâg.
  • Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy.
  • Ardal Ddiwydiannol Sandycroft.

Cwmnïau sydd eisoes wedi’u lleoli yn yr Ardal

  • Airbus UK.
  • Raytheon UK.
  • Toyota.
  • UPM Shotton.
  • Tata Steel.

Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi

  • Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch – AMRC Cymru.
  • Canolfan Ymchwil, Hyfforddi a Datblygu Uwch Gyfansoddion.
  • Parc Ynni Adnewyddadwy.
  • Canolfan Gweithgynhyrchu Darbodus Toyota.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.