BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardal Fenter Eryri

Image removed.

Dau safle unigryw yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae asedau naturiol a threftadaeth ddiwydiannol a milwrol yr Ardal yn cyfuno i gynnig amgylchedd delfrydol a diogel ar gyfer busnesau sy’n gweithio ym maes ynni carbon isel, TGCh, radioisotop meddygol neu’r maes awyrofod.

Wrth galon Parc Cenedlaethol Eryri, mae dau safle unigryw’r Ardal hon yn cyfuno eu hasedau naturiol â threftadaeth, gan gynnig yr amgylchedd delfrydol ar gyfer ynni carbon isel, cynhyrchu radioisotopau meddygol, TGCh neu fusnesau cysylltiedig ag awyrofod.

Trawsfynydd

  • Mae’n cynnig potensial i ddatblygu Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR), y cyntaf o’i fath.
  • Lleoliad unigryw ar gyfer canolfan ddata gydag ynni naturiol, oeri naturiol a diogelwch naturiol.
  • Mae’n cynnig potensial i ddatblygu Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR), y cyntaf o’i fath.
  • Safle delfrydol ar gyfer datblygu adweithydd ymchwil meddygol i ddarparu radioisotopau gradd feddygol ar gyfer diagnosio a thrin canserau.

Mae Trawsfynydd yn safle 50 hectar (123 erw) o amgylch yr hen orsaf bŵer niwclear ac mae ei leoliad yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer busnesau TGCh ac ynni carbon isel.

Mae gan y safle seilwaith eithriadol: ffynhonnell oeri naturiol a rhad o lyn gwneud mwyaf Cymru ac o awyr ffres y mynydd, a’i seilwaith grid cenedlaethol ei hun sy’n darparu cyflenwad ynni gwyrdd dibynadwy. 

Mae’r asedau hyn wedi arwain at nodi’r safle fel un sydd â’r potensial i ddatblygu Adweithydd Modiwlaidd Bach (SMR) cyntaf o’i fath ac adweithyddion ymchwil meddygol. 

Mae gweithwyr diogelwch proffesiynol hyfforddedig eisoes ar waith ar y safle hwn, sydd hefyd wedi’i leoli dan ofod awyr cyfyngedig. 

Mae’r lefel uchel hon o ddiogelwch ynghyd â ffynonellau ynni ac oeri naturiol, cynaliadwy, dibynadwy y safle a mynediad ledled y safle at wasanaethau ffeibr optig ehangach, yn gwneud Trawsfynydd yn lleoliad deniadol i weithredwr canolfan ddata ac i gwmnïau carbon isel yn gysylltiedig ag ynni.

Mae cwmni datblygu – Cwmni Egino – wedi cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i helpu i symud safle Trawsfynydd ymlaen.

Canolfan Awyrofod Eryri

  • Mynediad at 7,100km2 o ofod awyr wedi’i neilltuo.
  • Cysylltedd band eang gwibgyswllt.
  • Ardaloedd penodol i Systemau Awyrennau wedi’u Llywio o Bell (RPAS), Cynnal a Chadw, Trwsio ac Adfer (MRO) a pharc busnes.

Mae Canolfan Awyrofod Eryri, sy’n 227.8 hectar (562 erw) wedi’i lleoli o amgylch hen faes awyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn Llanbedr, sydd wedi’i adnewyddu. 

Wedi’i leoli ar benrhyn arfordirol, ei nodwedd eithriadol yw’r gofod awyr wedi’i neilltuo, sy’n caniatáu i weithredwyr sifil a milwrol gael mynediad ar yr un pryd ar gyfer profi RPAS (Systemau Awyrennau wedi’u Llywio o Bell). 

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau o’r radd flaenaf, mae’r safle’n cynnig ateb un-contractwr i gwsmeriaid, ar ffurf amgylchedd gweithredu newydd ar gyfer RPAS, sy’n cyfuno seilwaith meysydd awyr â rheoli gofod awyr.

Mae wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer awyrofod a diwydiannau cysylltiedig, gydag ardaloedd MRO (Cynnal a Chadw, Trwsio ac Adfer) ac RPAS, a pharc busnes sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Technoleg Ymchwil a Datblygu a defnydd diwydiannol ysgafn.

Mae tair rhedfa - o 2.3km, 1.4km a 1.3km - lle ceir hedfan i mewn i 7,100km2 o ofod awyr wedi’i neilltuo yn yr Ardal, sy’n ymestyn dros Fae Ceredigion. 

A dim ond gwpl o oriau i ffwrdd mae cyfleusterau ategol Parc Aberporth, unig barc technoleg pwrpasol y DU i ddatblygu technolegau ar gyfer y diwydiant systemau di-griw, sy’n rhan annatod o ecosystem RPAS Cymru.

Yr ardaloedd a’r safleoedd yn Ardal Fenter Eryri

  • Hen safle Gorsaf Bŵer Niwclear Trawsfynydd.
  • Canolfan Awyrofod Eryri.

Safleoedd strategol eraill yn yr Ardal neu’n lleol iddi

  • Parc Aberporth.
  • Parc Gwyddoniaeth Menai.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.