Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£56905.38

Cyflwyniad

Cynllun grant bychan oedd y prosiect hwn ar gyfer grwpiau a phrosiectau llai ar draws Powys na fyddent yn gallu manteisio ar gronfeydd Llywodraeth Cymru ac Ewrop fel arall. Cynigiwyd cymorth i'r grwpiau wneud hynny mewn modd sy'n gymesur â maint yr arian a ddyfarnwyd.

Roedd y prosiect yn gweithredu o dan thema iechyd a lles ac roedd yn gysylltiedig â chefnogi sefydliadau a phrosiectau a oedd wedi datblygu neu addasu gwasanaethau i gefnogi pobl yn ystod pandemig COVID-19, ac yr oedd angen iddynt addasu eto i anghenion newidiol wrth i'r broses adfer ddechrau 

Roedd y cynllun grant yn ceisio cefnogi prosiectau a oedd yn treialu ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gweithgareddau iechyd a lles ar raddfa fach a gynlluniwyd ac a ddarparwyd gan gyfranwyr cymunedol lleol.

Her

Galluogi sefydliadau llai i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd drwy ysgogi a mentora grwpiau gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol ym Mhowys. Roedd y cynllun yn fyw hefyd ar adeg pan oedd sawl cynllun grant arall ar agor i'r sector a oedd yn canolbwyntio ar geisio cefnogi'r trydydd sector drwy'r anawsterau a achoswyd gan y pandemig, a gafodd effaith ar lefel y ceisiadau a dderbyniwyd. Cafodd y pandemig effaith hefyd ar yr adrodd, gan fod grwpiau'n canolbwyntio cymaint ar gyflawni.

Atebion

Roedd y gronfa'n agored i geisiadau gan grwpiau gwirfoddol cyfansoddiadol, sefydliadau'r trydydd sector a mentrau cymdeithasol gydag incwm blynyddol o lai na £100,000. Gallai grwpiau/rhwydweithiau cymunedol anffurfiol a oedd yn dymuno gwneud cais wneud hynny drwy gydweithio â grŵp cyfansoddiadol a allai weithredu fel yr ymgeisydd arweiniol. Roedd cymorth Datblygu PAVO ar gael i gynorthwyo grwpiau anffurfiol gyda hyn.

Roedd yn rhaid i'r cais ddangos yn glir sut byddai'r gweithgaredd yn parhau y tu hwnt i 2021.

Gallai ymgeiswyr wneud cais am hyd at uchafswm o £4,000. Nod y gronfa oedd cefnogi costau refeniw. Roedd gwariant cyfalaf wedi'i gyfyngu i uchafswm o 10% o gyfanswm y cais. 

Roedd rhaid cyfrannu o leiaf 20% o gyllid cyfatebol.

Gallai cyllid cyfatebol fod ar ffurf naill ai arian parod neu gyfraniadau mewn nwyddau gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector. 

Gyda PAVO yn gweithredu fel y corff dyfarnu grantiau, gallem symleiddio'r gofynion adrodd sy'n cyd-fynd â chyllid Ewropeaidd.

Methodd y rownd gyntaf â sicrhau digon o geisiadau i wario'r pot grant yn llawn, felly awgrymodd y Swyddog Arwain ein bod yn cynnal rownd arall.

Budd

  • Galluogi sefydliadau llai i gael gafael ar gyllid Ewropeaidd drwy ysgogi a mentora grwpiau gwirfoddoli ffurfiol ac anffurfiol ym Mhowys
  • Helpu i ddatblygu a threialu microfentrau o'r gwaelod i fyny mewn cymunedau ledled Powys, ynghyd ag addasu gwasanaethau presennol sy'n darparu buddion iechyd a lles i drigolion lleol
  • Gwella gallu sefydliadau Trydydd sector a gwirfoddolwyr lleol i gynllunio a chyflawni prosiectau yn eu cymunedau
  • Cafwyd cyfanswm o 36 cais ar gyfer y ddwy rownd a hysbysebwyd yn haf 2021 am gyfanswm o £113,715.77. 

Canlyniad

Ariannwyd 12 prosiect o amgylch sir Powys am gyfanswm o £35,966.57.

Roedd y grwpiau’n cwmpasu amrywiaeth eang o weithgarwch prosiect, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles cyffredinol. Roedd gweithgareddau'n llawn dychymyg ac yn newydd yn y cymunedau roeddent yn cael eu treialu ynddynt. Darparwyd rhai gweithgareddau ar-lein er mwyn helpu i gynyddu hygyrchedd i'r rhai a wynebodd rwystrau o ran cyfranogi. Roedd grwpiau'n awyddus i gael gweithgareddau wyneb yn wyneb yn dilyn cyfnodau hir o gyfyngiadau symud.

Fe wnaeth amrywiaeth eang o fuddiolwyr fanteisio ar y prosiect, o fabis bach i’r henoed. Fe wnaeth grwpiau ganfod aelodau newydd o'r gymuned yn cymryd rhan yn eu gweithgareddau, efallai o ganlyniad i Covid a'r effaith y mae wedi'i chael.

Roedd iechyd a lles yr holl gyfranogwyr yn gwella drwy gymryd rhan yn y prosiectau a ariannwyd. Adroddwyd am fanteision i iechyd meddwl ac iechyd corfforol, yn ogystal â mwy o hyder a theimlo’n llai ynysig, gyda chysylltiadau cymunedol newydd yn cael eu gwneud. Mantais arall yw bod sefydliadau lleol yn cysylltu â'i gilydd, gyda gwaith cyfeirio'n cael ei wneud yn rheolaidd er mwyn i fuddiolwyr gael mynediad at y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt. Fe wnaeth lleoliadau lleol hefyd weld mwy o ddefnydd o gyfleusterau ac ymwybyddiaeth o weithgareddau eraill y maen nhw'n eu darparu.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Michele Muireasgha
Rhif Ffôn:
01597 822 191
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.pavo.org.uk/home.html