Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£54900.00

1.    Cyflwyniad

Datblygwyd y prosiect hwn er mwyn sicrhau bod buddsoddiad sydd mawr ei angen yn cael ei wneud i sicrhau bod treftadaeth naturiol, adeiledig a hynafol a threftadaeth ddiwylliannol Elan yn cael eu diogelu a’u dathlu mewn ffordd sy'n cefnogi ac yn datblygu'r bobl a'r cymunedau yn Elan a'r cyffiniau, gan gynnwys tref farchnad Rhaeadr lle mae’r busnesau yn dibynnu cymaint ar yr ymwelwyr a ddaw i'r cwm cyfagos.

Mae'r arloesedd yn y prosiect hwn yn dod â'r syniad o'r 'eco-amgueddfa' i Bowys. Fodd bynnag, mae'r cysyniad wedi cael ei ddefnyddio ledled y byd fel dull cymunedol a seiliedig ar le o warchod treftadaeth ddiwylliannol a naturiol a hyrwyddo deialog a brwdfrydedd ar gyfer y dyfodol. 

Mae'r nodau’n canolbwyntio ar ddatblygu technoleg sy'n addas ar gyfer Cwm Elan gan nad oes signal ffôn symudol yng Nghwm Elan ac o'r herwydd mae'r prif ddull ar gyfer llif gwybodaeth yn cael ei lesteirio'n ddifrifol. Bydd y prosiect hwn yn unioni hyn drwy ddefnyddio'r dechnoleg fwyaf priodol er mwyn sicrhau y gellir darparu gwybodaeth yn hawdd.

2.    Her

Yr her fwyaf i wynebu’r prosiect oedd yr oedi gyda'r fersiwn gychwynnol o'r ap ar gyfer y rhaglen beilot. Daeth y datblygwyr ar draws nifer o broblemau wrth godio’r sain car a’r testun poethfannau i weithio gyda'r GPS fel bod yr ap yn gwybod pryd i chwarae pa ddarnau. Yn wreiddiol, roeddem wedi gofyn i’r holl sain car gael ei chwarae yn ei gyfanrwydd gan ddechrau a stopio, ond yna sylweddolwyd wrth brofi hyn bod y gwahanol bwyntiau ar y daith angen eu clip eu hunain fel y gellir eu chwarae ym mha bynnag drefn yr oedd y cyfranogwr yn teithio drwy'r cwm.  Roedd angen tipyn o ail-wneud i newid hyn.

Yn ogystal â'r brif her hon, llwyddodd ein cynllun peilot i ganfod (yn ôl y disgwyl wrth ddatblygu prosiect fel hwn) nifer o fân broblemau lle’r oedd yr ap yn chwalu, yn gwrthod llwytho neu’n gwrthod chwarae'r wybodaeth gywir yn y lle cywir. Gwnaed llawer o waith er mwyn sicrhau hefyd bod cyfesurynnau gps pob un o'r lleoliadau'n gywir a bu’n rhaid i’r tîm staff wirio'r rhain sawl gwaith. 

Roedd heriau hefyd gyda'r broses beilot oherwydd er mwyn gallu lawrlwytho'r ap, yn gyntaf roedd yn rhaid ychwanegu darn o feddalwedd profi at ffôn y defnyddiwr a'i gofrestru ar wahân gyda'r datblygwr a'r siop apiau. Roedd hyn wedyn yn anfon e-bost at y defnyddiwr, ac weithiau byddai'n cyrraedd y ffolder sothach, ac ni fyddai'r defnyddiwr yn dod o hyd iddo.

Pan oedd yr ap yn barod o'r diwedd i fod ar gael i'r cyhoedd drwy'r siopau apiau, roedd oedi hefyd cyn cael y trwyddedau a rhifau adnabod priodol gan apple, a wnaeth oedi pethau ymhellach.

3.    Atebion

Gwnaeth y tîm nifer o newidiadau i'r ap yn ystod y cyfnod peilot, yn seiliedig ar adborth a gafwyd, a oedd yn golygu bod y cam peilot yn ddefnyddiol iawn gan ein bod yn gallu profi bod y dechnoleg yn gweithio, darganfod unrhyw broblemau bach, fel lleoliadau GPS anghywir ar gyfer poethfannau a llwybrau a datrys y materion hyn fel bod y fersiwn derfynol yn gweithio’n ddidrafferth.

4.    Budd

Mae cysyniad y prosiect a'r ap yn helpu cymunedau i warchod eu hadnoddau a'u traddodiadau ac yn annog cymunedau i gymryd rhan yn eu treftadaeth. Mae hefyd yn annog twristiaid a chymunedau i ymweld ac yn canolbwyntio ar hunaniaeth lle a'r berthynas rhwng lleoedd a'r bobl sy'n byw yno. Mae'r cysyniad wedi'i wreiddio'n dda drwy'r dull ar raddfa'r dirwedd sydd eisoes yn cael ei wneud gan Cysylltiadau Elan: Pobl, Natur a Dŵr, cynllun ar raddfa’r dirwedd a ariennir gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol

5.    Canlyniad

Mae ap Cwm Elan wedi cael ei ddatblygu, ei dreialu ac mae bellach yn gweithio'n dda yn yr ardal. Er bod datblygu'r ap yn broses arafach na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, mae bellach yn gweithio'n dda a bydd yn parhau i gael ei ddatblygu a'i integreiddio ymhellach fel arf allweddol ar gyfer mwynhau Cwm Elan a'i dreftadaeth unigryw.
 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Eluned Lewis
Rhif Ffôn:
01597 810449
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.elanvalley.org.uk/about/elan-links
Cyfryngau cymdeithasol: