Lleoliad:
Pen-y-bont ar Ogwr
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£4999.00

Working with local groups and researchers to develop a pocket book telling the heritage of Welsh place names across the rural county.

Bydd y prosiect yn gweithio ar draws y sir wledig gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion i ddatblygu llyfryn ar hanes a threftadaeth Pen-y-bont ar Ogwr drwy enwau llefydd lleol.

Bydd gweithgareddau yn cynnwys gweithdai, clybiau, diwrnodau o ddiddordeb arbennig yng nghyd-destun y llyfr. Mewn partneriaeth a nifer o grwpiau hanesyddol yr ardal, bydd cyfle i drigolion gyfrannu at y testun ac i helpu penderfynu pa destun a lluniau i’w cynnwys.

Bydd y trigolion neu ymwelwyr sydd yn cymryd rhan yn natblygiad y llyfryn, neu yn derbyn copi o’r llyfryn gorffenedig yn dysgu’r rhesymau tu ôl i’r enwau, dysgu geiriau Cymraeg newydd ac yn medru dweud y stori tu ôl i’w stryd, dref, ysgol neu bentref.

Nid oes ymchwil o’r fath am enwau hanesyddol Cymraeg y Sir ar gael ar hyn o bryd.Er hyn. mae yna ddigon o wybodaeth ar gael y gellir ei ddefnyddio a’i gyfuno drwy’r prosiect hon.

 

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Rhiannon Hardiman
Rhif Ffôn:
01656 815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.bridgendreach.org.uk/project/welsh-speaking-tourism-ambassadors-2/