- Lleoliad:
-
Ceredigion
- Swm cyllido:
-
£27,465
Un o fyfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf yr Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn ystod 2016 - 2017 oedd Caryl Griffiths. Ymgeisiodd Caryl am le ar y cwrs gyda’r bwriad o wneud gwahaniaeth yn ei chymdogaeth drwy roi cyfle i blant yr ardal ddatblygu eu doniau. Ym mis Mehefin 2017, cychwynnwyd côr ‘Plant y Bryn’ gydag ymarferion wythnosol yn Ysgol T Llew Jones, Brynhoffnant. Wrth fyfyrio ar ei chyfnod gyda’r Academi Arweinyddiaeth Gymunedol, dyma oedd gan Caryl i’w ddweud:
"Ar ôl dychwelyd i’m cynefin yn Llangrannog ar ôl treulio tair mlynedd o fod yn fyfyrwraig cerddoriaeth ac yn gynorthwyydd addysgu yn Llundain y peth wnaeth sefyll allan mwyaf i mi tra roeddwn yno, oedd y cyfleoedd anhygoel roedd y plant a’r ieuenctid yn eu derbyn ar stepen eu drws.
Teimlaf, er cefais addysg a chyfleodd gwych ar hyd fy mhlentyndod cynnar ym mhlwyf Penbryn, roeddwn wedi gorfod teithio o leiaf hanner awr er mwyn derbyn gwersi, e.e. telyn yn Aberystwyth, côr yng Nghastell Newydd Emlyn a chanu unigol yn Sir Benfro.
Felly dyma oedd y prif rheswm dros fy nghais i fod yn myfyrwraig ar y cwrs AAG – roeddwn eisiau gwneud gwahaniaeth yn fy nghymdogaeth i a rhoi y cyfle i’n plant ni i ddatblygu eu hunain.
Wrth dderbyn cymorth a llwyth o wybodaeth angenrheidiol o’r amryw o fentoriaid profiadol oedd yn ein helpu ni ar hyd ein taith ar y cwrs AAG, roeddwn yn hynod gyffrous o allu ddweud fy mod wedi gallu cyrraedd fy nôd – cychwynnodd Côr Plant y Bryn ar yr 20fed o Fehefin, 2017.
Roedd bod yn myfyrwraig ar y cwrs Academi Arweinyddiaeth Gymunedol wir wedi bod yn agoriad llygad a ddysgais cymaint wrth gwneud fy mhrosiect. Ond y peth ddysgais mwyaf o’r holl brofiad – peidiwch aros i neb arall gwneud y gwahaniaeth i chi eisiau gweld yn eich cymdogaeth chi, peidiwch byth meddwl eich bod chi’n rhy ifanc."
"Gwnewch y gwahaniaeth eich hunan – EWCH AMDANI!"
Un o fyfyrwyr ym mlwyddyn gyntaf yr Academi Arweinyddiaeth Gymunedol yn ystod 2016 – 2017 oedd Steffan Rees. Ymgeisiodd Steffan am le ar y cwrs yn y gobaith o gyflwyno a hyrwyddo cerddoriaeth Cymraeg yn Aberystwyth. Fel rhan o’i gwrs, aeth ati i drefnu a chynnal cyngerdd prynhawn Sul yn y Bandstand ar y Prom yn Aberystwyth. Bu’r digwyddiad yma yn llwyddiant gyda chynulleidfa dda a pherfformwyr dawnus.
Wrth i ni nesáu at ddiwedd 2018, dyma sydd gan Steffan i ddweud am ei gyfnod fel myfyriwr gyda’r Academi Arweinyddiaeth Gymunedol:
"Mae’n falch gen i ddweud fod Gigs Cantre’r Gwaelod yn dal i fynd ac yn mynd o nerth i nerth. Trefnwyd cyngerdd prynhawn Sul yn y Bandstand ym mis Mai 2017 aeth yn llwyddiannus iawn a dyma mewn gwirionedd oedd y prawf peilot ar gyfer cychwyn cyfres o dair gig yr haf yma. Aethpwyd ati i wneud cais grant i Gyngor Tref Aberystwyth a heb gallu peilota’r syniad mae’n annhebygol y byddai Gigs Cantre’r Gwaelod wedi derbyn eu cefnogaeth.Fe werthwyd bron pob tocyn i’r gyfres eleni ac mae galw nawr i ni gynnal cyfres arall haf nesaf. Yn ogystal â hyn mae gennym sawl gig pellach wedi eu trefnu cyn diwedd y flwyddyn ac mae ein llwyddiannau yn golygu fod sefydliadau lleol yn cysylltu gyda ni i gydweithio i lwyfannu gigs neu adloniant cerddorol iddyn nhw.
Mae’r dyfodol yn ddisglair felly i Gigs Cantre’r Gwaelod!
Rwyf dal mewn perthynas reit agos gyda Owain Schiavone fy mentor ar y prosiect ac mae’n parhau i fod yn un o ymddiriedolwyr y mudiad. Heb sesiynau addysgiadol yr Academi, y cyllid a chefnogaeth pobl fel Owain ni fyddai llwyddiannau Gigs Cantre’r Gwaelod wedi digwydd. Diolch yn fawr i’r Academi!"
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Meleri Richards
- Rhif Ffôn:
-
01545 572063
- Cyfeiriad e-bost:
- cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
- Email project contact