- Lleoliad:
-
Merthyr Tudful
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£59833.12
CEFNOGI IECHYD MEDDWL YN Y CYMOEDD
Cytunir yn gyffredinol bod cydberthynas gref rhwng amddifadedd ac iechyd meddwl, a gyda chymunedau Rhondda Cynon Taf a chymoedd Merthyr yn gartref i rai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, roedd angen mawr am gyllid i helpu i gefnogi eu trigolion.
Ers 2015 mae Camau’r Cymoedd, elusen lles cymoedd de Cymru, wedi bod yn darparu cyrsiau lles i helpu a chefnogi’r cymunedau lleol hynny. Roedd data gan Camau’r Cymoedd ac ymgynghoriad â rhanddeiliaid yn dangos bod angen adnoddau ychwanegol ar gyfer cymunedau gwledig a lled-wledig mwy anghysbell Cwm Taf.
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Harri Evans
- Rhif Ffôn:
-
01685 725463
- Cyfeiriad e-bost:
- harri.evans@merthyr.gov.uk
- Email project contact