Lleoliad:
Powys
Swm cyllido:
£150000.00

Cyflwyno Cymru i'r byd ehangach 

Nod prosiect Darganfod Ffordd Cambria, a arweiniwyd gan Gyngor Sir Powys, oedd hybu ffyniant economaidd a chynyddu nifer yr ymwelwyr ac ymwybyddiaeth o gynnyrch ar hyd Ffordd Cambria. Mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd asgwrn cefn mynyddig Cymru ac yn daith gyfan o’r gogledd i’r de, 185 milltir (300km) o arfordir i arfordir o Landudno i Gaerdydd.

Er mwyn gwella ffyniant economaidd ar hyd Ffordd Cambria, penderfynwyd mai rhaglen farchnata gydlynol ar draws y siroedd fyddai’r ffordd orau o weithredu. Felly, gan weithio mewn partneriaeth â saith awdurdod lleol arall (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Gwynedd, Cyngor Sir Ceredigion, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Cyngor Caerdydd) roedd y prosiect yn ymestyn dros ardal ddaearyddol eang a dangosodd yr uchelgais o gydweithio er budd y ddwy ochr, trwy gyflwyno pecyn o brosiectau i wella ymwybyddiaeth o ardaloedd a sbarduno twf twristiaeth ar hyd llwybr Ffordd Cambria. Bu trafodaethau rheolaidd â phartneriaid hefyd o gymorth i lunio’r prosiect, cyn ymgeisio, a thrwy gydol y cyfnod cyflawni, unwaith i’r cyllid gael ei sicrhau.

 

PDF icon

 

Golygfeydd Cambria Way

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Julie Lewis
Email project contact