Lleoliad:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£63942.80

Mae Tirwedd Hanesyddol Comin Gelligaer a Merthyr, sydd wedi’i dynodi gan Cadw, yn ecosystem unigryw sy’n darparu ‘gwerth’ economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol pwysig i’r cymunedau gwledig sydd o’i chwmpas ac yn dibynnu arni. Fodd bynnag mae’r dirwedd o dan fygythiad yn bennaf oherwydd llawer iawn o ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys tipio anghyfreithlon, taflu ysbwriel, cerbydau oddi ar y ffordd a difrod amgylcheddol.

Bydd y prosiect peilot Cydweithredu hwn yn cael ei arwain gan Gymdeithas Cominwyr Gelligaer a Merthyr (GMCA), Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (CBSC), Cyfoeth Naturiol Cymru, Cadwch Gymru’n Daclus a phartneriaid eraill a bydd yn treialu ymagwedd Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) ar draws ardal y dirwedd.

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Owen Aston
Rhif Ffôn:
01443 838632
Email project contact