Lleoliad:
Gwynedd
Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£30000.00

Disgrifiad o’r prosiect:

Nod y prosiect hwn oedd canolbwyntio ar hyrwyddo ymgyrch codi arian trwy lwyfannau Cyllido torfol. Roedd y ffocws yn bennaf ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter yn effeithiol i ledaenu’r cyfle i fuddsoddi mewn dau brosiect. Prynwyd systemau i fonitro faint yn union o’r gynulleidfa a dderbyniodd ac a welodd y negeseuon hyn. 

Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?

Trwy gynorthwyo 3 grŵp cymunedol hollol wahanol, gan ddefnyddio gwahanol lwyfannau, gallwn addysgu cymunedau ledled Gwynedd am yr hyn i’w ystyried wrth ddefnyddio cyllido torfol fel ffordd o godi arian.

Beth oedd canlyniad eich prosiect?  

Mewn hinsawdd lle mae llai o arian cyhoeddus ar gael ar gyfer grantiau i ariannu mentrau cymunedol, dangosodd y prosiect ei bod hi’n bosibl dod o hyd i ffyrdd newydd o godi arian trwy Gyllido torfol. Helpodd y prosiect i godi ymwybyddiaeth a diddordeb ynghylch sut y gall unigolion a theuluoedd fuddsoddi’n uniongyrchol yn eu cymunedau.

Beth oedd y prif wersi a ddysgwyd o’r prosiect?

Bod creu fideos proffesiynol mewn ffordd effeithlon iawn yn hybu’r ymgyrch gan ei fod yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r prosiect , ac wedyn yn dosbarthu’r gwersi a ddysgwyd o’r prosiect. 

Y ffordd fwyaf effeithiol o gynyddu’r niferoedd sy’n gwylio fideos sydd wedi’u lanlwytho ar eu tudalennau Facebook. Dim ond 30-40 a wyliodd fideo hyrwyddo yn uniongyrchol ar sianel You Tube Arloesi Gwynedd Wledig, tra gwyliodd tua 20 mil o bobl yr un fideo trwy Facebook. 

Gwelwyd bod pobl leol yn barod i fuddsoddi eu harian mewn prosiectau lleol oherwydd eu bod yn gwerthfawrogi’r budd cyffredinol a fydd yn dychwelyd i’r gymuned.

Byddem hefyd wedi targedu’r wasg draddodiadol yn ogystal â llwyfannau cyfathrebu cymdeithasol 

Beth sydd nesaf ar gyfer eich prosiect?

Y camau nesaf yw ystyried y gwersi a ddysgwyd o’r ymgyrch codi arian a gynhaliwyd drwy gyllido torfol a sut y gellir gwella ar unrhyw brosiect tebyg yn y dyfodol. 

Y bwriad yw symud ymlaen i gyfnod arall o gyllido torfol, trwy ganolbwyntio ar wahanol sectorau fel cynorthwyo i ailddatblygu llety mewn adeilad yng nghanol y dref, cyn edrych ar ffyrdd o gael prosiect Cyllido torfol arall yn y sector preifat.

Gwybodaeth pellach:

https://www.arloesigwyneddwledig.cymru/

 

Mwy o wybodaeth am y prosiect:

Enw:
Saran Edwards
Rhif Ffôn:
01766 514057
Email project contact