Cynlluniau
Mae'r dyraniad cyllid hwn yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr UE, a fydd yn cau yn 2023. Bydd yn sicrhau cysondeb o ran cefnogaeth ar gyfer camau gweithredu pwysig a gyllidwyd yn flaenorol o dan y RhDG.
Bydd y cyllid, a fydd ar gael i gefnogi ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig, yn cael ei ddarparu ar draws chwe thema:
- rheoli tir ar raddfa ffermydd; camau ar y fferm i reoli tir mewn ffordd gynaliadwy er mwyn gwella adnoddau naturiol, megis annog ffermwyr i dyfu cnydau sydd o fudd i’r amgylchedd, e.e. cnydau protein
- gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd; gan gynnwys gwella effeithlonrwydd o ran tanwydd, porthiant a maetholion, gwneud dulliau’r economi gylchol yn rhan annatod o waith ffermydd, a’u hannog i ddefnyddio ynni adnewyddadwy
- effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd; helpu ffermydd i wneud arbedion effeithlonrwydd drwy fuddsoddi mewn technoleg ac offer newydd, a’u galluogi i greu cyfleoedd i arallgyfeirio’n amaethyddol
- rheoli tir ar raddfa’r dirwedd; mynd ati ar raddfa’r dirwedd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur, drwy gydweithredu ar draws nifer o sectorau
- coetiroedd a choedwigaeth; cefnogi’n hymrwymiad i greu 43,000 hectar o goetiroedd erbyn 2030 a chefnogi'r gwaith o greu strategaeth ddiwydiannol sy'n seiliedig ar bren
- cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio; creu diwydiant bwyd a diod cryf a ffyniannus yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol
- Cynllun Cynefin Cymru; Bydd cynllun amaeth-amgylcheddol interim yn agor ar gyfer ceisiadau yn ddiweddarach eleni, dyma amlinelliad o'r cynllun arfaethedig.
- Grantiau a thaliadau gwledig: https://llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig
- Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio - https://llyw.cymru/cynlluniau-gwledig-dyddiadau-ymgeisio