Dathlu llwyddiannau’r Cynllun Datblygu Gwledig Ddoe a Heddiw

Mae Cymru wedi cael budd o gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig Ewropeaidd am ymhell dros 20 mlynedd. Mewn gwirionedd, gwnaeth LEADER ddathlu 30 mlynedd ym mis Medi eleni. Wrth i Raglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020 (y Rhaglen UE olaf i Gymru) ddechrau dod i ben, gwnaethom ni yma yn WRNSU feddwl ei bod hi’n amser delfrydol i fyfyrio ar rai o lwyddiannau’r rhaglen dros y blynyddoedd a dathlu’r gwahaniaeth y mae’r cyllid wedi’i wneud i Gefn Gwlad Cymru.

  • Astudiaethau Achos Fideo – cyfle i weld astudiaethau achos prosiectau, cwrdd â phobl sydd wedi elwa ar hyn a chlywed drosoch eich hun y gwahaniaeth y mae’r cyllid hwnnw wedi gwneud iddynt a’u hardal leol.
  • Teithiau Prosiectau – weithiau mae prosiectau wedi dechrau’n fach ond mae’r cyllid a gawsant wedi’u galluogi i ddatblygu’n bethau llawer mwy. Gall prosiectau fod wedi dechrau gyda chyllid LEADER mewn un rhaglen ac wedi datblygu i ffrydiau cyllido eraill yn y blynyddoedd dilynol.