Allgymorth Ffitrwydd Gwledig ‘campfa symudol’ / Cymuned Beiciau Heb Bedalau ‘plant yn ailgylchu’ / Celf Greadigol

Mae tair elfen i’r prosiect, sef:

  • Allgymorth Ffitrwydd Gwledig ‘campfa symudol’
  • Cymuned Beiciau Heb Bedalau ‘plant yn ailgylchu’
  • Celf Greadigol

A thrwy beilota pob un o’r tri gyda’i gilydd byddwn yn ceisio ymgysylltu â chroestoriad o’r bobl sydd wedi’u hynysu fwyaf yn y cymunedau mwyaf gwledig. 

Allgymorth Ffitrwydd Gwledig ‘campfa symudol’

Fel y soniwyd yn gynharach, rydyn ni’n cynnal rhaglen ffitrwydd i oedolion mewn ardaloedd gwledig. Fodd bynnag, mae’r rhaglen ond yn darparu ar gyfer y boblogaeth ifanc a merched yn bennaf. Mae pobl hŷn yn y gymuned wedi cysylltu â ni droeon yn gofyn i ni ddarparu mwy o weithgareddau sy’n briodol ar gyfer y genhedlaeth hŷn ac ar gyfer gwella llesiant. Hefyd, hoffent dderbyn gweithgareddau sy’n hyrwyddo cyfranogiad sy’n pontio’r cenedlaethau.  O ganlyniad i hyn, awgrymwyd dro ar ôl tro y byddai Yoga/Pilates/Troelli yn weithgaredd a fyddai’n addas i nifer o wahanol bobl, a byddai hefyd yn cynnwys y genhedlaeth hŷn. 

Nodir Yoga/Plates a throelli fel maes datblygu yn y ddogfen hon. Mae’r prinder hyfforddwyr Yoga yn yr ardal yn un o’r rhwystrau rhag cyfranogiad yn yr ardal hon gan fod costau sylweddol ynghlwm â dod yn hyfforddwr. Byddai’r prosiect hwn yn ychwanegu gwerth i’r adnoddau lleol ac yn hyrwyddo cynllun ffordd o fyw cynaliadwy. Byddai hefyd yn hwyluso datblygiad cyn-fasnachol gyda’r cyfle i ehangu gan ddefnyddio amryw o bartneriaid. 

Gan nad oes gennym ni unrhyw hyfforddwyr a allai ddarparu gweithgaredd o’r fath, rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â hyfforddwr annibynnol lleol. Mae hyfforddwr o’r fath ar gael yng Ngherrigydrudion sy’n barod i ddatblygu a darparu rhaglen beilot i ymgysylltu â chymunedau gwledig ynysig o ddau o’r cymunedau a ganlyn: Llansannan a Cherrigydrudion. Mae gennym hefyd rai hyfforddwyr sy’n ymgysylltu â chymunedau ar hyn o bryd sydd â chymwysterau perthnasol ond heb yr adnoddau i wella’r gwasanaeth a gynigir. 

Hoffem ni fuddsoddi mewn rhywfaint o offer, llogi lleoliad a hyfforddwyr a allai ddarparu’r gweithgareddau am 12 wythnos i ddechrau. Yn ystod y cyfnod hwn, byddai pawb sy’n cymryd rhan yn cyfrannu tuag at y sesiynau gyda’r bwriad o greu rhaglen gynaliadwy.  Mewn ardaloedd eraill, gallai’r prosiect wneud gwahaniaeth gwirioneddol i weithgareddau a allai fod yn gynaliadwy drwy ddatblygu’r adnoddau sydd ar gael (yn enwedig pan fod hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar gael ar hyn o bryd).   

Cymuned Beiciau Heb Bedalau ‘plant yn ailgylchu’

Mae beiciau heb bedalau yn gysyniad a ddatblygwyd gennym i wella llythrennedd corfforol plant dan 5 oed a’u teuluoedd. Y brif gynulleidfa darged yw amddifadedd gwledig yn Llanrwst ei hun.  Byddwn yn gweithio gyda’r ganolfan deuluoedd yn Llanrwst mewn ymgais i ymgysylltu fwy â’r gymuned leol a chynnig sesiynau sy’n annog rhieni i helpu eu plant i gymryd rhan mewn chwaraeon (yn arbennig seiclo). Mae’n brosiect llawn hwyl, syml ac mae’n cynnig syniadau di-rif ar sut i helpu i gael plant ar eu beiciau o oedran cynnar iawn (rhai mor ifanc â2 oed). Drwy weithio gyda’r ganolfan deuluoedd gallwn dargedu cynulleidfa benodol a chydweithio i godi ymwybyddiaeth am y prosiect.  

Yn ddiweddar, bu’r adran yn ddigon ffodus i sicrhau hyfforddiant i’w staff a’u gwirfoddolwyr i ddarparu sesiynau ar feiciau cydbwysedd - sesiynau ‘Beiciau Heb Bedalau’ ar gyfer plant dan 5 oed yng Nghonwy wledig. 
Hoffem ni gynnig sesiynau ymarfer rheolaidd i blant dan bump oed a’u teuluoedd, ac rydyn ni’n bwriadu dechrau arni gyda’r rhan hon o’r prosiect yng nghanol Llanrwst ym mis Medi 2016.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â thîm chwaraeon yr ysgol, y ganolfan deuluoedd yn Llanrwst a’r ganolfan hamdden. Hoffai’r rhaglen ddechrau cryfhau perthnasau teuluol a chydlyniant cymunedol. Gwella iechyd a chreu cyfleoedd gwaith.  

Celf Greadigol

O safbwynt datblygu rhaglen arloesi, fe wnaeth y penderfyniad i weithio mewn partneriaeth â’r adran iechyd a lles arwain at ddull gydag amryw o dargedau. Ar yr un pryd â chynnig cyfleoedd i ddatblygu iechyd a ffitrwydd, nododd y sector llesiant yr angen i ddatblygu cyfleoedd creadigol yng Nghonwy wledig. Gan hynny, bydd y penderfyniad i gydweithio a chynnig y rhaglen hon yn gwella’r gwasanaethau sydd ar gael ac yn ategu’r adran iechyd (targedu’r un cymunedau). Rydyn ni’n ceisio ymgysylltu â chynulleidfa na fydd ganddynt ddiddordeb mewn mentrau iechyd a chwaraeon i ddechrau, ond efallai y bydd ganddynt ddiddordeb creadigol. Bydd yr adran hon yn cynnig llwyfan i dargedu aelodau o’r gymuned y gallwn weithio gyda nhw a’u hannog i gymryd rhan. Drwy ganolbwyntio ar yr angen tybiedig i gael sesiynau creadigol heb bwysau i gyflawni disgwyliadau na chanlyniadau penodol, byddwn mewn sefyllfa well i ymgysylltu â mwy o aelodau o’r gymuned.

Ceir disgrifiad o’r prosiect isod:

Mae TAPE Communty Music and Film a’r Artist Cymunedol Dee Rivaz wedi cydweithio i ddatblygu a darparu prosiectau celf yn y gymuned ers bron i ddegawd.  Deilliodd y cysyniad Poke the Muse o’r canfyddiad fod angen sesiynau creadigol heb bwysau yn sgil disgwyliadau neu ganlyniad penodol.  Daeth i'r amlwg y gall y pwysau hwn i lwyddo greu rhwystr rhag cymryd rhan, tawelu’r brwdfrydedd i archwilio ac atgyfnerthu credoau negyddol.  Yn unol â hynny, fe wnaethom ni lunio’r sesiynau stiwdio agored lle mae cyfranogwyr yn cyfarwyddo eu hunan, gydag awyrgylch sy’n ceisio caniatáu i chi ymlacio a chwarae’n greadigol. Er nad ydynt yn cael eu darparu fel gweithdai therapi celf neu ysgrifennu, mae’r adborth yn dangos canlyniad therapiwtig cadarnhaol i lawer, ac mae’n nhw’n magu hyder dros amser.  Nid oes label ar y gweithgarwch hwn, ac nid yw felly’n targedu nac yn allgau.

Mae’r cyfranogwyr, sy’n amrywio o unigolion proffesiynol i ddechreuwyr llwyr, wedi dweud eu bod yn mwynhau cael amser a gofod i’w hunain mewn lleoliad heddychlon gyda phobl o’r un anian i gadw cwmni iddynt, heb y pwysau i orfod cynhyrchu neu berfformio.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£9051.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Conwy
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Tim Ballam
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts