Amser i Fentro

Bydd y cynllun hwn yn barhad o brosiect 'Llwyddo'n lleol 2050' gyda'r nôd o herio'r canfyddiad ymhlith pobl ifanc bod yn rhaid i chi adael i lwyddo. Roedd prosiect Llwyddo'n Lleol yn gyfle gwych i bobl ifanc Gwynedd ac Ynys Môn gymryd rhan mewn cynllun 10 wythnos, gan eu helpu i gynllunio, a meddwl am eu dyfodol.

Roedd hyn yn cynnwys canllawiau a mentora drwy gefnogaeth arbenigwyr lleol, i ddatblygu syniad yn gynllun busnes ffyniannus.

Nod prosiect Amser i Fentro fydd adeiladu ar y gwaith a wnaed yn ystod y 10 wythnos a chaniatáu i'r grŵp o bobl ifanc (naill ai hunangyflogedig, myfyrwyr neu mewn cyflogaeth amser llawn) gael cymorth pellach i ddatblygu eu syniadau busnes heb ostyngiad mewn incwm.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£10,842
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Prosiectau Cydweithredu Cymru
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.3

Cyswllt:

Enw:
Rhys Gwilym
Rhif Ffôn:
01766514057
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts