Arfarnu opsiynau ar gyfer Golchfeydd Ogwr

Fel rhan o'r gwaith o adfer tir glofaol yng Nghwm Ogwr, cafodd safle Golchfeydd Ogwr a adferwyd ei roi fel man gwyrdd i Gyngor Cymuned Cwm Ogwr.  Yn 2013 cynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb i wneud y defnydd mwyaf posibl o'r safle hwnnw. Ers hynny, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnal Asesiad o Gymeriad Tirwedd a Chynllun Adfer Natur ar gyfer y Sir.  Mae gan y ddau gynllun hyn ganllawiau ar wella cymeriad tirwedd a bioamrywiaeth y Golchfeydd.

Mae Reach wedi ariannu gwaith arfarnu opsiynau i asesu'r opsiynau ariannu gorau i fwrw ymlaen ag argymhellion mewn cynlluniau ac astudiaethau blaenorol. Yna, cyflwynwyd yr opsiynau hyn i Gyngor Cymuned Cwm Ogwr cyn ymgynghori'n eang yn y gymuned leol ar yr opsiynau a ffefrir.

Law yn llaw â hyn rydym wedi cyflwyno cais i Gronfa Natur ar Garreg eich Drws Llywodraeth Cymru.  Mae'r cais wedi llwyddo i sicrhau £45,250 i ddatblygu Golchfeydd Ogwr fel ased cyfalaf newydd i natur. Bydd y broses arfarnu opsiynau nawr yn ymgynghori â'r Cyngor Cymuned a thrigolion ar sut fydd yr arian hwn yn cyd-fynd â datblygiad ehangach ar gyfer y safle.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.ogmorevalecommunitycouncil.co.uk
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts