Astudiaeth Ddichonoldeb Cae Lewistown

Mae cyfle wedi codi i Brosiect Ieuenctid BAD Bikes ymgymryd â throsglwyddo asedau cymunedol mewn perthynas â Chae Chwarae Lewistown gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.  Astudiaeth ddichonoldeb yw'r prosiect hwn, i edrych ar yr ymrwymiad ariannol ac adnoddau sydd ei angen i fod yn gyfrifol am y tir dan sylw a gwneud y mwyaf o'i ddefnydd cymunedol.

Y nod cyffredinol yw datblygu man gwyrdd newydd a gwneud y mwyaf o'i botensial i gyfrannu at iechyd a lles y gymuned leol. Bydd y prosiect yn mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol drwy rymuso cymunedau i weithredu a hefyd cefnogi lles cenedlaethau'r dyfodol drwy warchod a rheoli lleoedd a mannau lleol yn gynaliadwy.

Bydd yr astudiaeth yn nodi opsiynau ar gyfer cyfleoedd ynni adnewyddadwy wrth ddatblygu opsiynau ar gyfer adeilad cymunedol ar y cae. Gan arwain drwy esiampl yn y datblygiad hwn, nod BAD Bikes yw helpu cymunedau lleol a chyfleusterau cymunedol i feddwl yn wahanol am eu hynni a'u helpu i wneud newidiadau.

Byddant yn cynnal proses ymgynghori gyda phartneriaid cyflenwi ac aelodau'r gymuned, astudiaeth ddichonoldeb i'r tebygolrwydd o gyflawni'r prosiect gyda gwahanol opsiynau ar gyfer datblygu'r tir a fyddai'n arwain at ddatblygu/cynllun gweithredu i'w gyflwyno yn y dyfodol.

Bydd yr ymarfer ymgynghori yn asesu angen a dymunoldeb y prosiect gan bartneriaid y gymuned, y trydydd sector a'r sector cyhoeddus.

Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn cynnwys pa mor bosibl yw hyn, gan gynnwys y tebygolrwydd o ganiatâd cynllunio oherwydd y cyfamod presennol ar y tir, logisteg mynediad, opsiynau adeiladu gwahanol o adeiladau cynwysyddion modiwlar i unedau hunanadeiladu, costau datblygu a chostau rhedeg.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£5,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.cwvys.org.uk/members/bad-bikes
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts