Ffocws y prosiect hwn yw safle gwledig eang Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam (550ha) a’r cymunedau gwledig cyfagos. Bydd busnesau, perchenogion tir, ffermwyr a grwpiau cymunedol yn cydweithredu i gryfhau ecosystemau’r dirwedd, gan sicrhau bod yr ardal yn atyniadol i fusnesau ac yn hygyrch i bobl sydd am hamddena ynddi a dod i adnabod yr amgylchedd lleol.
Bydd y prosiect yn rhoi blaenoriaeth i weithgareddau gwella’r tir ac i ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y dirwedd i helpu i gynnal y gwelliannau a’r manteision at y dyfodol. Bydd y pwyslais ar y seilwaith gwyrdd gan gynnwys plannu blodau gwyllt, adfer llwybrau cyhoeddus, plannu coed brodorol, annog pobl i ddefnyddio systemau draenio cynaliadwy a dangos technegau peirianyddol meddal, yn helpu i gadw dŵr wyneb a gwella coridorau bywyd gwyllt yn ogystal â chreu lle brafiach i’r rhai sy’n gweithio yn yr ardal.
Rhan o amcanion hirdymor y prosiect yw ymgysylltu â’r cymunedau lleol cyfagos a chynnig cyfleoedd i wirfoddolwyr fod yn rhan o’r prosiect. Bydd hefyd yn helpu i gael y rhai sy’n gweithio, yn byw ac yn mwynhau cyfleoedd i hamddena yn yr ardal i deimlo bod y prosiect yn perthyn iddyn nhw.
Mae’r prosiect yn cynnig cymorth corfforaethol hefyd i fusnesau sydd am gefnogi gwelliannau amgylcheddol mewn ffyrdd gwahanol ar eu tir, ar ffurf ‘Partneriaethau Naturiol’. Bydd cefnogi seilwaith gwyrdd yn dod â manteision i fusnesau trwy ymgorffori mannau gwyrdd. Mae’r manteision i gwmnïau lleol yn cynnwys costau is, cyfraniad at les cymdeithas a’r amgylchedd ac achredu a chynnig atebion sy’n seiliedig ar natur i helpu i gyfoethogi bioamrywiaeth, ymgysylltu â phobl a gwella lles pobl.
https://www.northwaleswildlifetrust.org.uk/cy/wrexham-industrial-estate-living-landscape-businesses
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£388,438
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Wrecsam
- Cwblhau:
-
- Biodiversity means Business
- Biodiversity means business
Cyswllt:
- Enw:
- Adrian Jones
- Cyfeiriad e-bost:
- acljones@wildlifetrustswales.org
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts