Bydd y prosiect yn creu tair swydd newydd i weithio yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt newydd Dyffryn Dyfi (DWC) ar lannau afon Dyfi ar Warchodfa Cors Dyfi, un o’r ychydig o gynefinoedd cors mawn iseldir sydd bellach yn bodoli yng Nghymru. Hefyd bydd yn hwyluso camau pensaernïol olaf y broses o ddylunio’r ganolfan, a darparu offer a meddalwedd ar gyfer sgrin cyffwrdd o’r radd flaenaf er mwyn ymgysylltu â’r gymuned, ac offer camera gyda meddalwedd fideograffeg ar gyfer y prosiect.
Bydd y ganolfan newydd, fydd yn defnyddio technoleg amgylcheddol a chynaliadwy call a pherfformiad cadarnhaol o safbwynt carbon, yn cyfuno holl gyfleusterau presennol Prosiect Gweilch Dyfi dan un to, gan arwain at brofiad llawer mwy cyfoethog lle gall ymwelwyr a gwirfoddolwyr fel ei gilydd ymdrochi.
Caiff y ganolfan ei datblygu a’i hadeiladu o’r cychwyn cyntaf trwy gyfraniadau a chyfranogiad y gymuned. O’r cyfnod ymgynghori a gwneud penderfyniadau, at y broses o adeiladu a gweithredu, bydd gan y gymuned gyfle i gyfrannu bob cam o’r ffordd.
Gan arddangos cyfoeth bioamrywiaeth y warchodfa, gan gynnwys y Gweilch, bydd tîm o staff a 200 o wirfoddolwyr yn cyfleu treftadaeth ddiwylliannol, ddiwydiannol a naturiol Afon Dyfi am y tro cyntaf, trwy ganolfan arloesol er mwyn denu hyd at 60,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.
Bydd ARWAIN yn cyllido:
- Tair swydd newydd
- Cefnogaeth Rheoli a Gweinyddol
- Datblygiad pensaernïol (tua 30% o’r cyfanswm)
- Offer clyweled i ymgysylltu, ac ar gyfer addysg, hyrwyddo a chyhoeddusrwydd
- Sgrîn Cyffwrdd 86 modfedd i ymgysylltu â’r gymuned
- Meddalwedd pwrpasol (Ap) ar gyfer y sgrin cyffwrdd uchod
Mae prif amcanion prosiect cyffredinol DWC fel a ganlyn:
- Adeiladu canolfan addas i’w diben, effeithlon o safbwynt ynni ar gyfer staff, gwirfoddolwyr, ymwelwyr a dysgwyr sy’n ymweld â’r warchodfa natur
- Darparu canolbwynt i wasanaethu’r gymuned leol ac ymwelwyr sy’n uno treftadaeth Afon Dyfi ac yn cynnig lle i’w ddefnyddio gan grwpiau cymunedol, artistiaid a sefydliadau
- Dyblu nifer yr ymwelwyr cyfredol a darparu amrediad ehangach o gyfleoedd gwirfoddoli
- Datblygu strategaethau rheoli ychwanegol o ran cynefin y gors mawn trwy hwyluso cyflwyno afancod i ardal gaeedig ar y warchodfa
Credwn fod y prosiect hwn yn cyfateb yn agos iawn at lawer o egwyddorion ARWAIN:
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£168,940
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.3
Cyswllt:
- Enw:
- Louise Nicholson
- Rhif Ffôn:
-
01597827378
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts