Cludiant Adnewyddadwy Cymunedol

Aeth Reach ati i ffurfio rhwydwaith LEADER newydd i hyrwyddo'r defnydd o ynni cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr, o'r enw Grŵp Ynni Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.  Cynigiwyd pwynt gwefru am ddim i'r grŵp ar gyfer cerbyd cymunedol yn Cenin Renewables yn Stormy Down Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae Cenin yn cynhyrchu 3.4 MW o ynni adnewyddadwy o dyrbin gwynt mawr, cae solar a gwaith treulio anaerobig.  Weithiau, maen nhw'n cael trafferth dychwelyd y swm mawr hwn o ynni i'r grid, felly byddent yn croesawu bod rhywfaint o'r ynni hwnnw'n mynd at ddefnydd cymunedol.

Cynhaliodd Grŵp Ynni Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr astudiaeth ddichonoldeb i weld sut allai'r cynnig hwnnw o ynni am ddim greu cynllun trafnidiaeth ynni adnewyddadwy yng nghefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd yn cynnwys astudiaeth ddesg o gerbydau cyfredol, costau llawn, modelu llwybrau ac ymgynghori â'r gymuned.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.bridgendreach.org.uk/docs/TRC47Report_ENG.pdf

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts