Cydweithfa Grefftau Pen-y-bont ar Ogwr

Ym mis Tachwedd 2016, penodwyd arbenigwr marchnadoedd crefftau, i edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r sector crefftau medrus lleol, a gwireddu’r potensial economaidd ar gyfer crefftau lleol o ansawdd uchel yn yr ardal. Aseswyd y ffyrdd y gall cymryd rhan mewn crefftau helpu i leihau ynysu cymdeithasol a chynyddu lles ymysg yr henoed a’r rhai sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, gan gynnwys y rhai sy'n gaeth i’w tai.

Aeth Grŵp Gweithredu Lleol Pen-y-bont ar Ogwr ymlaen i ddatblygu prosiect peilot, gyda’r nod o nodi a datblygu model busnes cynaliadwy yn ariannol a fyddai’n cefnogi gweithgareddau rhydwaith, hybiau a hyfforddiant – naill ai drwy gysylltu â busnesau neu sefydliadau presennol neu sefydlu busnesau a mentrau cymdeithasol newydd. Nod y prosiect oedd gwella potenisal economaidd a chynyddu sgiliau yn yr ardal, tra’n lleihau ynysu cymdeithasol a gwella lles. Yn ogystal â chynorthwyo i greu rhwydwaith crefftau, ceisiodd y prosiect sefydlu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a mentora, hybiau crefftau bach a strategaeth incwm ar gyfer y rhwydwaith.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£56,950
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts