Nod y prosiect yw datblygu cyfleuster modern o'r radd flaenaf i lewpardiaid yr eira. Bydd y cyfleuster newydd yn galluogi ymwelwyr i gael golwg agos ar y llewpardiaid ac i ddysgu mwy am yr hyn y mae llewpardiaid yr eira yn ei wynebu yn y gwyllt.
Mae llewpardiaid yr eira ymhlith anifeiliaid mwyaf eiconig Tsieina, ac yn un o'r rhywogaethau mwyaf agored i niwed sy'n wynebu'r perygl mwyaf ar y blaned, a bydd y prosiect hwn yn annog cysylltiadau diwylliannol â Tsieina. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach o'r enw 'Y Ffordd Sidan' sy'n anelu at adrodd hanes bywyd gwyllt Tsieina, ei thirluniau a'i diwylliant, ac at greu cysylltiadau â Chymru.
Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys ardal chwarae â thema Dsieineaidd y gellir ei defnyddio ym mhob tywydd a cheir help cydweithredol gan Sefydliad Confucius a'r Eden Project wrth ystyried naws yr ardal a'r broses o'i dylunio. Cynigir gweithgareddau chwarae syml hefyd a fydd yn cymharu ac yn cyferbynnu'r Gymraeg, Saesneg a (Mandarin) Tsieinëeg. Y bwriad fydd creu cysylltiadau â natur a threftadaeth Tsieina.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£147,315
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
- Ardal:
-
Conwy
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Nick Jackson MBE
- Cyfeiriad e-bost:
- info@welshmountainzoo.org
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts