Cymorth gyda Throsglwyddo Asedau Cymunedol

NOD: Trosglwyddo asedau cyhoeddus yn llwyddiannus i sefydliadau trydydd sector lleol sydd wedi’u galluogi.

Sefydlwyd prosiect Trosglwyddo Asedau Cymunedol (CAT) mewn ymateb i flaenoriaeth leol er mwyn i’r Cyngor drosglwyddo asedau sy'n eiddo cyhoeddus i sefydliadau'r sector gwirfoddol. Mae trosglwyddo ased neu wasanaeth i Gyngor Tref a Chymuned, clwb chwaraeon neu grŵp cymunedol yn cynnig cyfle i gynnal a diogelu gwasanaethau cymunedol gwerthfawr a allai fod dan fygythiad fel arall.  Rhagwelir y byddai defnyddwyr ar y cyfan mewn sefyllfa well i ddatblygu a chynnal y pafiliwn i safon sy'n cyd-fynd â'u hanghenion a'u disgwyliadau. 

Bydd y prosiect yn adeiladu ar adroddiad a phecyn cymorth CAT a ariannwyd gan y Grwp Gweithredu Lleol yn flaenorol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu sefydliadau wrth ystyried ymgymryd â Throsglwyddo Asedau Cymunedol adeiladau sy'n eiddo i'r cyhoedd. Un o'r argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwnnw yw 'Mae'r Cyngor yn comisiynu cymorth annibynnol digonol i roi cyngor ac arweiniad manwl i ymgeiswyr CAT ar faterion fel’:

  • Arfarnu ar opsiynau ac astudiaethau dichonoldeb
  • Cynllunio busnes ac ariannol
  • Strwythurau cyfreithiol a threfniadau llywodraethu
  • Pob agwedd ar reoli asedau
  • Gweithio mewn partneriaeth/consortia
  • Cynhyrchu incwm a chyngor ar ariannu

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£80,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts