Partneriaeth ar y cyd yw’r cais hwn dan arweiniad Eglwys Gadeiriol Aberhonddu, sy’n cydnabod pwysigrwydd datblygu’r rhwydwaith hwn ar gyfer Aberhonddu a’r eglwys gadeiriol ei hun. Bydd y Rhwydwaith yn cyfuno atyniadau treftadaeth a diwylliannol Aberhonddu, sefydliadau cymunedol, Canolfan Gwybodaeth newydd Cyngor Tref Aberhonddu: Visit Brecon, Twristiaeth Bannau Brycheiniog ac Uned Twristiaeth Cyngor Sir Powys. Bydd rhanddeiliaid hefyd yn cynnwys y gymuned twristiaeth ehangach a’r gymuned busnes i alluogi seilwaith marchnata digidol arloesol o’r gwaelod i fyny.
Diben y prosiect
Diben Rhwydwaith Treftadaeth a Diwylliant Aberhonddu yw cynnig dull o weithio unedig o ran codi ymwybyddiaeth am dreftadaeth gyfoethog y dref ac egni ei bywyd diwylliannol ac artistig. Gwneir hyn drwy ddatblygu atebion marchnata digidol cydgysylltiedig er mwyn manteisio i’r eithaf ar fuddion economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol partneriaid y prosiect, busnesau, gweithwyr, trigolion ac ymwelwyr.
Y Nodau
• Creu Rhwydwaith Treftadaeth a Diwylliant newydd yn Aberhonddu i alluogi partneriaid y prosiect i gydweithio i gyflawni gweithgareddau marchnata o’r gwaelod i fyny, mewn ffyrdd newydd, perthnasol a chynaliadwy
• Ymgynghori ac ymgysylltu â phartneriaid prosiect, staff, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol, a chynnig hyfforddiant iddynt o ran eu rôl yn y prosiect wrth ymchwilio i straeon a darparu cynnwys
• Creu cynnwys marchnata deinamig gan gynnwys: data, lluniau a fideos
• Ymchwilio i a datblygu ateb digidol cynaliadwy o ran cynllunio a sicrhau fod cynnwys yn hygyrch i’w ddefnyddio gan bartneriaid, busnesau a sefydliadau marchnata lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, ac i gynyddu dosbarthiad er mwyn ymestyn cyrhaeddiad yr adnoddau
• Galluogi ymgyrchoedd marchnata digidol arloesol: gan gynnwys pecynnau profiadau diwylliannol unigryw a chyfryngau cymdeithasol ar y cyd trwy uno sefydliadau cymunedol i weithio gyda’r sector treftadaeth, diwylliannol a thwristiaeth i gyflenwi’r gwasanaeth
Amcanion
1. Recriwtio o leiaf 10 partner - sefydliadau Treftadaeth a Diwylliant sy’n adlewyrchu amrediad a dyfnder treftadaeth Aberhonddu ac egni bywyd diwylliannol ac artistig y dref. Dyddiad targed: Rhagfyr 2018.
2. Ymgynghori ac ymgysylltu â rhanddeiliaid y prosiect trwy gynnal cyfres o gyflwyniadau a gweithdai gyda phartneriaid a grwpiau cymunedol. Targed: cyrraedd 100 o randdeiliaid gydag o leiaf 10% gyda nodweddion gwarchodedig (Deddf Cydraddoldeb 2010)
3. Ymchwilio i a chyhoeddi straeon i ddehongli treftadaeth a diwylliant Aberhonddu, ein partneriaid a rhanddeiliaid, mewn fformatau amrywiol, i’w defnyddio ar draws llwyfannau digidol. Targed: Straeon i’w dehongli a’u cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn amrediad eang o fformatau digidol i gynnwys un fformat digidol arloesol
4. Cynnal archwiliad o ddulliau marchnata cyfredol partneriaid, o ran gwefannau a chyfryngau cymdeithasol er mwyn adnabod ffyrdd newydd, arloesol o ddefnyddio’r seilwaith digidol presennol i gynllunio, casglu, cadw a dosbarthu cynnwys. Bydd hyn yn cefnogi dull o weithio cydgysylltiedig o ran cynllunio a marchnata ac yn cyflwyno gwasanaeth newydd i sefydliadau marchnata a busnesau lleol. Targed: Datblygu a chytuno gwasanaeth digidol perthnasol newydd ac arloesol i’w ddefnyddio gan bartneriaid erbyn Rhagfyr 2019
5. Ymgysylltu â sefydliadau cymunedol er mwyn recriwtio gwirfoddolwyr i ymuno ag ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol ar y cyd sy’n pecynnu ac yn cynrychioli treftadaeth a diwylliant Aberhonddu. Targed: o leiaf 10 hyrwyddwr gweithgar ar gyfryngau cymdeithasol
6. Hwyluso cyfnewid gwybodaeth rhwng partneriaid. Bydd hyn yn galluogi dull o weithio cydgysylltiedig ac yn cadarnhau ymrwymiad i roi cymorth mewn da ar gyfer Rhwydwaith Treftadaeth a Diwylliant Aberhonddu. Targed: yn y lle cyntaf 1 diwrnod y mis am 18 mis, ac yn barhaus wedi hynny
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£93800.40
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Powys
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 5
- Mesur:
-
19.2
- Arwain, the LEADER Programme in Powys - Case Studies
- Developing Brecon Heritage and Culture Network
Cyswllt:
- Enw:
- Louise Nicholson
- Rhif Ffôn:
-
01597827378
- Cyfeiriad e-bost:
- rdp@powys.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts