Mae hwn yn brosiect cydweithredu sy’n cael ei gefnogi gan y Grwpiau Gweithredu Lleol yng Ngheredigion, Powys a Sir Gaerfyrddin.
Cyflawnir y prosiect gan Fenter Mynyddoedd Cambria am gyfnod o dair blynedd, a gychwynnodd yn gynnar yn 2017. Bydd elfennau allweddol y prosiect yn cynnwys:
- Meithrin a chefnogi Mynyddoedd Cambria (MC) fel cyrchfan trwy gryfhau Rhwydwaith Twristiaeth Mynyddoedd Cambria, datblygu patrymau gwaith integredig ar draws y sefydliadau y mae ganddynt gylch gwaith twristiaeth / cyrchfan ym MC a datblygu brand MC.
- Gweithio mewn cymunedau lleol a gyda busnesau er mwyn datblygu economi’r ardal sy’n cael budd gan ac sy’n cefnogi tirwedd ddiwylliannol a gwerth uchel o ran natur MC; meithrin a chryfhau rhwydweithiau ffurfiol ac anffurfiol o gynhyrchwyr, busnesau a chymunedau ar draws MC; hyrwyddo gweithio integredig a gweithgarwch creu brand / adnabod.
- Ymchwilio gyda chymunedau MC y posibilrwydd o sefydlu’r ardal fel ‘Parc Natur’ neu rywbeth sy’n seiliedig ar Parcs Naturels Ffrengig. Cynigiwyd y model arloesol hwn, a addaswyd i’r cyd-destun Cymreig, fel un a fydd yn hynod o addas er mwyn hyrwyddo ac ymgorffori datblygu cynaliadwy ym MC, gan godi proffil MC ar draws y DU a bod yn ffocws ar gyfer gweithio integredig ar draws yr ardal. Yn Ffrainc, mae’n seiliedig ar ffin hunan-ddiffiniedig gan ardal wledig, a gaiff ei gydnabod am bwysigrwydd ei hasedau naturiol a diwylliannol. Cynigiwyd y gallai diogelu a gwella’r amgylchedd naturiol, cymdeithasol a diwylliannol fod yn ddiben y Parc Natur ym MC, trwy weithredu cynllun datblygu cynaliadwy ar gyfer datblygiad economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a threftadaeth. Fodd bynnag, caiff y diben hwn ei fireinio a’i addasu yn unol â’r anghenion a nodir gan gymunedau MC. Byddai Siarter wedi’i llunio yn lleol sy’n nodi amcanion y Parc yn cynnig sail ar gyfer y diben hwn, a byddai’n cynnwys dull gweithredu optio i mewn / optio allan, gan ganiatáu i gymunedau unigol benderfynu a ddylid llofnodi’r Siarter neu beidio.
- Gwella cynaladwyedd Menter Mynyddoedd Cambria trwy archwilio a datblygu ffrydiau cyllid newydd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£90344.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Prosiectau Cydweithredu Cymru
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.3
- Dyfodol Cambrian Futures
Cyswllt:
- Enw:
- Cynal Y Cardi
- Rhif Ffôn:
-
01545 572063
- Cyfeiriad e-bost:
- cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- http://www.cynnalycardi.org.uk/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts