Her Ynni Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr

Prosiect i feithrin ac ysbrydoli prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wledig oedd Her Ynni Cymunedol Pen-y-bont ar Ogwr.  Roedd yn cynnwys gwefan a chanllawiau ar ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol.  Bu galwad agored i grŵp cymunedol ddechrau a chael cefnogaeth i ddatblygu prosiect ynni cymunedol.  Fe'i datblygwyd fel astudiaeth achos i arwain prosiectau cymunedol eraill.

Gwirfoddolwyr Parc Bryngarw oedd y grŵp a ddewiswyd, a chawsant gymorth i gynllunio'r gwaith o osod cyfres o baneli a modiwlau ffotofoltäig solar ar eu hadeiladau.  Astudiaeth achos oedd hon i edrych ar osod ynni adnewyddadwy ar adeiladau cymunedol mewn byd ôl-tariff cyflenwi trydan.  Roedd y prosiect yn cynnwys gweithgareddau a deunyddiau addysgol i godi ymwybyddiaeth o ynni adnewyddadwy a chynaliadwyedd gyda gwirfoddolwyr ac ymwelwyr.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£28,450
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
4
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.bridgendenergy.co.uk
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts