IoT a Byw Annibynnol

Disgrifiad o’r prosiect:

NOD: Peilota datrysiadau digidol yn galluogi unigolion gydag anghenion gofal i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Ar yr un pryd, mae ardaloedd yn dal i fod lle mae cysylltedd i rwydweithiau digidol yn atal mynediad i unrhyw gyfleoedd manteisiol.

I’r unigolyn fanteisio o dechnolegau digidol mae’n rhaid cael: 

1.              Cysylltedd digidol/galluedd rhwydwaith o fewn y cartref

2.              Gwybodaeth am y technolegau digidol sydd ar gael a sut y gallant gael eu gosod a’u   gweithredu.

3.              Y gallu i asesu angen a chysylltu’r anghenion hynny gyda galluoedd technoleg ddigidol

Mae llawer o unigolion yn byw yn ynysig yn eu cartrefi eu hunain, gydag amrywiaeth o heriau iechyd neu symudedd. Gyda rhagolygon o boblogaeth cynyddol hŷn, bydd y pwysau ariannol ar ofal a chymorth yn cynyddu. Gyda llai o adnoddau ariannol ar gael, bydd hyn o reidrwydd yn cael effaith negyddol ar y nodweddion gwarchodedig yma.

Gall technolegau digidol eu hunain fedru gwella llesiant pobl ac ar yr un pryd gynnig manteision cost a alluogi adnoddau i gefnogi’r galw cynyddol.

Bydd y prosiect yn cynnwys secondiad i Therapydd Galwedigaethol i’r prosiect fydd yn asesu anghenion 3 defnyddiwr gwasanaeth y mae dementia yn effeithio arnynt gyda thair gwahanol lefel o angen cymorth. Caiff argaeledd offer priodol i ddiwallu’r anghenion hynny ei sicrhau gan arwain at i’w defnydd gael ei beilota a’i asesu yn nhermau manteision, costau a ffit gyda’n model darpariaeth seiliedig ar le.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£17,689
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Dyffryn Wysg
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Lucinda James
Rhif Ffôn:
01633644779
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://monmouthshire.biz/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts