Fe wnaeth Reach gydweithio â Chymdeithas Hanes Lleol Cwm Ogwr, Clwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel a Chlybiau Bechgyn a Merched Cymru, i ddatblygu prosiect Llwybr Treftadaeth a Chanolfan Dreftadaeth Ogwr i sicrhau bod hanes a threftadaeth y cwm yn cael eu cadw a'u harddangos. Nodau'r y prosiect oedd:
- Hyrwyddo hanes a threftadaeth drwy sefydlu Canolfan Dreftadaeth gydag arddangosfa, gwybodaeth a gwaith celf yng Nghlwb Bechgyn a Merched ar ei newydd wedd Nant-y-moel.
- Hyrwyddo hanes a threftadaeth y cwm i drigolion ac ymwelwyr drwy ddefnyddio'r llwybr cymunedol cerdded a beicio presennol drwy'r cwm, trwy osod byrddau gwybodaeth treftadaeth ar hyd y llwybr.
- Defnyddio codau QR ar hysbysfyrddau treftadaeth i greu llwybr clywedol sy'n hyrwyddo amwynderau a busnes eraill yn y cwm a rhoi gwybodaeth ychwanegol am y cyffiniau e.e. llwybrau cerdded a beicio, tai bach, caffis, gwersylla etc.
- Hybu iechyd a lles drwy annog cerdded a beicio ar y Llwybr Treftadaeth
- Darparu cyfleusterau beicio yng Nghlwb Bechgyn a Merched Nant-y-moel er mwyn annog beicwyr i ymweld â'r Ganolfan Dreftadaeth yn yr adeilad.
- Darparu pob math o wybodaeth, gweithgareddau a hyfforddiant i'r bobl ifanc o'r Clwb Bechgyn a Merched a thrigolion lleol er mwyn uwchsgilio a gwella eu gwybodaeth am hanes a threftadaeth a'u galluogi i hyrwyddo'r prosiect
- Llunio cynllun yn seiliedig ar ymgynghori â'r trigolion ar gyfer safle hen ganolfan y glowyr Berwyn a gafodd ei dymchwel oherwydd diffygion strwythurol
Sefydlwyd grŵp llywio i randdeiliaid er mwyn goruchwylio'r prosiect ac mae’n cynnwys aelodau perthnasol o'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£15,412
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Pen-y-bont ar Ogwr
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.219.3
Cyswllt:
- Enw:
- Sandra Lopes
- Rhif Ffôn:
-
01656815080
- Cyfeiriad e-bost:
- reach@bridgend.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- https://www.ovlhs.co.uk/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts