Morlun Porthcawl

Bydd y prosiect hwn yn creu cyfle i chwilio am y Porthcawl hen a newydd, gan olrhain ei ddatblygiad sy'n seiliedig ar ei berthynas â'r môr yn ystod Blwyddyn y Morlun - Blwyddyn y Môr.

Bydd y prosiect yn codi ymwybyddiaeth am yr atyniadau a'r cyfleusterau sydd ar ddod a'u cefnogi trwy Raglen TAD - y bwriedir ei lansio yn y Flwyddyn Ddarganfod.

Bydd Blwyddyn y Morlun yn gwella glan-môr Porthcawl ac yn ei hyrwyddo fel cyrchfan mewn ffordd arloesol a chyfoes.

Bydd y prosiect yn cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Promenâd Byw – Byddwn yn dod â glan-môr Porthcawl yn fyw trwy theatr gyfoes a theatr stryd draddodiadol.  
  • Digwyddiadau'r Morlun - yn cynnwys sioe syrffio drawiadol wedi iddi nosi, sef cynnig ar record byd o 200 o syrffwyr ar yr un don a defnyddio tân i adrodd hanes Porthcawl.
  • Ystafell Ymdrochi - yn cynnig cyfle unigryw i syrffio, defnyddio Bwrdd Padlo Sefyll neu Caiac, heb wlychu. Bwrdd Stori'r Morlun - Delweddau mawr o ansawdd uchel o'r morlun, i gyd wedi'u tynnu ar y promenâd isaf, i gyd yn cefnogi'r brand. Morlun digidol - digideiddio hen luniau o Borthcawl. 


 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£78,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa Ymgysylltu Twristiaeth Ranbarthol (RTEF)
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
Ieuan Sherwood
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts