Nod prosiect cydweithredu Naturefix ar gyfer Iechyd a Lles gan Coed Lleol, a ddarparwyd yng Ngheredigion, Merthyr a Castell-nedd Port Talbot oedd integreiddio, hyrwyddo a datblygu rhagnodi cymdeithasol ar gyfer iechyd a lles awyr agored yn llawnach yn y sector iechyd yng Nghymru.
Roedd y prosiect nid yn unig yn mynd i’r afael â’r bwlch mewn ymgysylltu digidol sydd, yn y byd modern, yn allweddol i hyrwyddo’r rôl y gall natur ei chwarae mewn iechyd meddwl a chorfforol, ond fe wnaeth hefyd dreialu datblygiad adnoddau digidol newydd fel offeryn ar gyfer rhannu profiadau a dysgu.
Trwy’r gwaith a wnaed fel rhan o’r prosiect hwn, cysylltwyd â dros 223 o weithwyr iechyd a lles proffesiynol posibl, ac o ganlyniad i hyn, bu cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau.
Mae llwyddiant y prosiect Naturefix wedi darparu model ar gyfer cyflwyno hyn i feysydd eraill sydd wedi arwain at fwy o ddiddordeb mewn cyfeirio at y gweithgareddau ac yn galluogi'r prosiect i weithio gyda chyfeirwyr i ddod o hyd i ffyrdd arloesol o chydweithio i ddiwallu'r angen.
Yn ogystal, mae buddion gweithgareddau’r prosiect fel a ganlyn:
Rhannu Sgiliau Digidol – datblygu a phartneriaeth
Roedd y chwe seminar digidol a gysylltodd Coed Lleol â Green Care Y Ffindir yn caniatáu i'r sefydliad rannu arfer a deall yn well y mecanweithiau a ddefnyddir ar gyfer rhagnodi cymdeithasol ym mhob gwlad. Nod yr holl sesiynau oedd datblygu sgiliau newydd, rhannu arfer a chryfhau cysylltiadau rhwng sefydliadau ac ar draws diwylliannau a ffiniau rhyngwladol.
Partneriaeth a Hyrwyddo
Roedd y dull gweithredu lleol yn canolbwyntio ar ddenu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i brofi iechyd awyr agored gan ddefnyddio’r coed yn uniongyrchol fel y gallant brofi a chlywed am y manteision a magu hyder wrth gyfeirio at weithgareddau tebyg. Mae ymchwil wedi dangos bod diffyg dealltwriaeth o'r cysyniad o iechyd awyr agored yn aml yn rhwystr i atgyfeiriadau. I fynd i’r afael â hyn, cynhaliwyd 5 sesiwn drochi, gyda’r sesiynau’n targedu gweithwyr proffesiynol gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl lleol gan gynnwys meddygon teulu, timau iechyd meddwl y GIG, Cydlynwyr Cymunedol ac asiantaethau atgyfeirio’r Trydydd Sector.
Yn dilyn y sesiynau yng Ngheredigion, mae Coed Actif Ceredigion wedi dechrau rhaglen gyda gwasanaethau dydd Ceredigion. Yn ogystal, maent wedi gallu tynnu sylw at brosiect Trywydd Iach (Iechyd Awyr Agored) yng Ngheredigion, sy’n cael ei redeg gan y sefydliad lleol Eco Dyfi gyda chefnogaeth Coed Lleol, sy’n cysylltu cyfranogwyr ag ystod o weithgareddau awyr agored yn yr ardal (therapi â chymorth anifeiliaid, grwpiau cerdded, grwpiau coetir, a grwpiau cadwraeth).
Fel rhan o’r prosiect, crëwyd nifer o ffilmiau a fideos byr gan wneuthurwr ffilmiau proffesiynol Mike Erskine o Reconnect in Nature, gan arddangos sut mae gweithgareddau lles coetir yn cael eu cyflwyno, gan ddarlunio’r gweithgareddau ar waith a’r effaith ar gyfranogwyr o’u safbwynt nhw.
Mae’r ffilmiau byr a’r fideos i’w gweld isod:
- Coetiroedd ar gyfer Lles - https://www.youtube.com/watch?v=pD4gUETCJV0
- Gwersi a ddysgwyd o symud cynnwys ar-lein - https://www.youtube.com/watch?v=HuEighf_3zo
- Tips ar gyfer addasu cynnwys i’w gyflwyno ar lein | Rhan 1 - https://www.youtube.com/watch?v=Am2zVvtHHYs
- Tips ar gyfer gwneud fideos a chreu awyrgylch gefnogol ar lein | Rhan 2 - https://www.youtube.com/watch?v=Lz44ThaEb1I
- Sut i wneud Saws cetshyp aeron draenen wen - https://www.youtube.com/watch?v=EGFYwE59Mkk
- Fideo ar 'Fluffy stuff' yr Hydref - https://www.youtube.com/watch?v=DcYheftplS0
- Snaciau cyflym gydag aeron yr hydref - https://www.youtube.com/watch?v=pG0ntNVO9VY
- Sut all natur trawsnewid ein hiechyd? - https://youtu.be/c7dbSyj4kjE
- Miniogi cyllyll - https://youtu.be/KpHiDYrM2U8 (Saesneg yn unig)
- Ymdrochi yng Nghoedwig yr Hydref - https://youtu.be/sgNDYv3DoCg (Saesneg yn unig)
- Sut mae natur yn trawsnewid ein hiechyd? https://youtu.be/ZkAbo9erQ1Q (Saesneg yn unig)
Astudiaethau achos
Fel rhan o brosiect cydweithredu Naturefix ar gyfer Iechyd a Lles gan Coed Lleol yng Ngheredigion, Merthyr a Chastell-nedd Port Talbot, crëwyd 3 astudiaeth achos.
Merthyr Tudful - https://youtu.be/Sy4Ihgk2io0
Pontardawe - https://youtu.be/mJ9dfm-L_dQ
Biosffer Dyfi - https://youtu.be/1CcRNFv3_MA
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£30003.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Prosiectau Cydweithredu Cymru
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.3
- Naturefix for Health and Wellbeing
Cyswllt:
- Enw:
- Meleri Richards
- Rhif Ffôn:
-
01545 570881
- Cyfeiriad e-bost:
- cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
- Email project contact
- Gwefan y prosiect:
- https://www.cynnalycardi.org.uk/
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts