Neuadd Gymunedol Abercynffig

Ar hyn o bryd nid oes gan bentrefi Abercynffig a Thon-du unrhyw ganolfan gymunedol na chanolfan les, heblaw am Neuadd y Plwyf ac ystafell gyfarfod gymunedol yn Nhon-du. Mae gan y ddwy gymuned boblogaeth sy'n tyfu, a fydd yn cynyddu ymhellach wrth i 500 o dai gael eu hadeiladu yn natblygiad Pentre Felin, Ton-du, heb na adeilad na chyfleusterau cymunedol yn rhan o'r cynllun. Caiff yr adeilad ei reoli a'i redeg gan elusen nad oes ganddo ddigon o arian i wneud y newidiadau a'r gwelliannau sydd eu gwir angen er mwyn i'r neuadd allu parhau i gynnig gwasanaethau a chyfleusterau gwerthfawr i'r gymuned.

Mae Neuadd Les Abercynffig yn adeilad cymunedol gwych yng nghanol Abercynffig. Mae digon o le parcio yno a neuadd fawr sy'n cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol.  Y Neuadd Les yw'r unig adeilad sy'n cynnig mannau i'w defnyddio gan y gymuned leol, ond mae'r defnydd o'r neuadd wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf gan fod yr adeilad mewn cyflwr gwael a'r ffaith nad oes modd cynnig gwasanaethau pellach i'r ardal. Hoffai Cymdeithas Les Abercynffig wneud cais am gyllid i adnewyddu ac ailwampio'r adeilad a hefyd ymestyn y cyfleusterau presennol.

Nid yw'r Gymdeithas yn gwybod faint y byddai hyn yn ei gostio a does ganddi ddim dyluniadau manwl i lywio’r ceisiadau am gyllid. Mae'r Gronfa Cymunedau Gwledig Ffyniannus yn ariannu Pensaer i gynnal yr arolygon sydd eu hangen i gynllunio'r gwaith adnewyddu a chynhyrchu costau a chynlluniau manwl ar gyfer y gwaith hwn.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,500
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
1, 3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts