Pennal 2050

Cynllun strategol hirdymor uchelgeisiol yw prosiect Pennal 2050 a’i nod yw datblygu cymuned ac amgylchedd cryf a chynaliadwy yn seiliedig ar bartneriaeth gymunedol gydweithredol ar raddfa’r dirwedd gyfan. Bydd dros 40 o bartneriaid, gan gynnwys tirfeddianwyr, grwpiau cymunedol, cyrff amgylcheddol, undebau amaethyddol a busnesau lleol yn y sector twristiaeth, hamdden, iechyd a ffermio ynghyd â Chyfoeth Naturiol Cymru.  

Bydd y cynllun yn canolbwyntio ar ddatrys nifer o broblemau lleol gan gynnwys cynlluniau gwell i reoli a lliniaru llifogydd ar yr arfordir ac ucheldir y dalgylch; gwella ansawdd y dŵr/afon; hybu bioamrywiaeth a chynefinoedd; gwella mynediad; creu cyfleoedd gwaith, twristiaeth ac iechyd; cryfhau’r economi a’r gymdeithas.  

Drwy gydweithio fel cymuned a manteisio ar arbenigedd lleol a chynnwys pawb yn y gymuned, nod y prosiect yw mynd i’r afael â’r prif fygythiadau yn ardal dalgylch afon Dyfi.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£818,283.00
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
PENNAL 2050 WINS TOP AWARD

Cyswllt:

Enw:
Heather Mitchell
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts