Prosiect Treftadaeth Digidol Arloeswyr Powys

Dros y 250 mlynedd diwethaf, mae’r Drenewydd a Chanolbarth Cymru wedi bod yn gartref i grŵp arwyddocaol o arloeswyr diwydiannol, meddylwyr a dyngarwyr, gan gynnwys Robert Owen, David Davies a’i deulu, Pryce Jones a Laura Ashley. Nod y prosiect yma yw gwireddu buddiannau’r etifeddiaeth arloesol hon i’r Drenewydd a Chanolbarth Cymru.

Mae’r prosiect yn ceisio defnyddio technegau digidol newydd i ddiogelu treftadaeth yr Arloeswyr ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, ac ar yr un pryd yn cyfrannu’n gynaliadwy at nodau adfywio creu lleoedd a chymdeithasol economaidd. Mae hwn yn gyfuniad unigryw o ddulliau o weithio sydd â pherthnasedd eang ar hyd a lled Powys, Cymru a’r DU.

Mae’r Arfarniad Dewisiadau a Dichonolrwydd yn cynig asesu pa rai o’r dewisiadau sydd ar gael sydd fwyaf addas ar gyfer treftadaeth y Drenewydd a’r Arloeswyr, a pha rai fydd y mwyaf dichonol yn y dyfodol. Gellir rhannu’r asesiad yma gyda threfi marchnad eraill, ym Mhowys ac ymhellach i ffwrdd, felly hefyd yr arfer gorau a’r gwersi a ddysgwyd yn ystod y dasg o gymhwyso canlyniadua’r astudiaeth maes o law. 

Cyflenwi’r astudiaeth dewisiadau a dichonolrwydd yw’r brif garreg filltir.  Mae’r astudiaeth hon yn creu strategaeth ar gyfer gwaith yn y dyfodol ac yn creu llwyfan i ariannwyr allu cymryd rhan. Bwriedir gallu cwblhau’r cyfnod cyntaf o ddewisiadau a’r astudiaethau dichonolrwydd erbyn 1 Mai 2019.

 

Saesneg yn unig

 

Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£7995.00
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Powys
Cwblhau:
Thema:
5
Mesur:
19.2
Arwain, the LEADER Programme in Powys - Case Studies
Powys Pioneers Digital Heritage Project

Cyswllt:

Enw:
Ann Evans
Rhif Ffôn:
01597 827072
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts