Rheilffordd a Chanolfan Dreftadaeth Cwm Garw

Mae Rheilffordd Cwm Garw yn bwriadu adeiladu Canolfan Dreftadaeth ym Mhontycymer (mae caniatâd cynllunio ar ei gyfer eisoes) i gyfuno cyfleusterau treftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol. Diben y prosiect hwn oedd darparu tystiolaeth o gymorth cymunedol mewn perthynas â hyn a gweithgareddau eraill (y Llwybr Cymunedol) a fydd yn gwella'r cynllun cyffredinol ac yn cynnig arweiniad i Fwrdd y Rheilffordd ar gynnwys y gymuned yn effeithiol.

Cynhaliodd y prosiect astudiaeth ddichonoldeb o sut i sicrhau bod y gymuned yn elwa i'r eithaf ar y ganolfan dreftadaeth arfaethedig yn Rheilffordd Cwm Garw.  Roedd yr astudiaeth yn cynnwys amlinelliad o'r gweithgareddau sy'n cynyddu'r defnydd cymunedol o'r ganolfan dreftadaeth, y llwybr cymunedol cyfagos a sut i gynyddu cyfraniad cymunedol at weithgareddau yn y ganolfan. Bydd yn cynnwys argymhellion i gyrraedd y nod hwnnw. 

Cafodd yr adroddiad ei lywio drwy ymgynghori â'r gymuned leol i nodi pa ddewisiadau sy'n bodoli a sut y gallai cymorth cymunedol gynyddu cyfraniad gweithredol.  Nododd yr astudiaeth y manteision gwirioneddol sy'n debygol o fod i'r gymuned - incwm busnes, nifer yr ymwelwyr, iechyd a lles, addysg a 'pherchnogaeth' yr amgylchedd.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£7,000
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.garwvalleyrailway.co.uk
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts