Rheolaeth Strategol Safleoedd Natura 2000: Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig

Newid Ymddygiad Comisiynodd y partneriaid brosiect tair blynedd i ddatblygu prosesau sensitif a strategol o reoli safle Gwarchodfa Natur Cynffig i ddiogelu rhag colli cynefinoedd a sicrhau bod yr ecosystem yn dod yn fwy cydnerth i bwysaur hinsawdd syn newid, ar cynnydd mewn ymwelwyr. Mae gan y prosiect grp llywio syn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid or sector cyhoeddus, y trydydd sector a thirfeddianwyr lleol, sydd i gyd buddiant yn y safle. Caiff ei ariannu ar y cyd hefyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Maer prosiect yn helpu pobl i ddysgu am yr amgylchedd ac maen meithrin newid ymddygiad er mwyn lleihaur effaith y mae ymwelwyr yn ei chael ar yr ecosystem. Roedd hyn yn cynnwys ymgyrch sbwriel a baw cn ac ad-drefnur hawliau tramwy i leihau gwrthdaro rhwng defnyddwyr y warchodfa a lleihau eu heffaith ar y warchodfa. Mae arwyddion a biniau gwell yn annog ymwelwyr i fod yn fwy cyfrifol ar y safle, a bydd addysgu a dehongli ar y safle yn dysgur defnyddwyr am bwysigrwydd cadwraeth amgylcheddol, au rhan nhw yn y gwaith cadwraeth hwnnw. Mae llawer iawn o waith rheoli tir wedii wneud gan gynnwys clirio llystyfiant, ac mae hyn wedi cael effaith ar unwaith wrth i lwyth o degeirianau a rhywogaethau cynhenid eraill ddychwelyd ir rhannau hynny a reolir, gan ddenu adar i fridio yn y cynefin newydd. 

Gweithio gydar Byd Academaidd Datblygwyd adnoddau ar gyfer ysgolion ar byd academaidd iw galluogi i ddefnyddior safle ar ffurf ymweliad y maent yn ei reoli eu hunain. Maer pecynnau yn cynnwys asesiad risg a gweithgareddau syn gysylltiedig r cwricwlwm er mwyn ei gwneud yn bosibl i ddysgu yn yr awyr agored. Mae cynulleidfaoedd targed ar gyfer y prosiect wedi cynnwys disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd a myfyrwyr Prifysgol. Er bod llawer o ymweliadau gan ysgolion cynradd ac uwchradd wediu cofnodi, gwelwyd yr effaith fwyaf ym maes Addysg Uwch. Mae llawer o resymau dros hyn, gan gynnwys y tir, pellteroedd ac ymarferoldeb ymweliadau gan ysgolion. Rhagwelir y bydd pecynnau addysg ysgolion yn adnodd defnyddiol i annog mwy o bobl i ymweld r warchodfa. Trwy weithion agos gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd, bu modd cyflwyno ymchwil l-raddedig ochr yn ochr chyflawnir prosiect. Yn ogystal hyn, mae nifer o israddedigion wedi gallu manteisio ar leoliadau gwaith wediu strwythuro, a dysgu am reolaeth strategol weithredol. Mantais sylweddol syn deillio o hyn yw bod myfyrwyr yn gallu cael gwybodaeth go iawn a datblygu sgiliau ymarferol i lywio eu hastudiaethau au gyrfaoedd yn y dyfodol, gan hefyd gefnogir warchodfa drwy gylch parhaus o leoliadau gwaith. Ynghyd hyn, mae darlithfa yng Nghanolfan y Gadwraeth wedi ei thrawsnewid yn amgylchedd dysgu digidol ag offer newydd ar gyfer myfyrwyr. Ceir codau realiti estynedig o gwmpas yr ystafell ddosbarth i blant ddysgu am amrywiaeth y safle mewn modd rhyngweithiol a diddorol.

 

PDF icon

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£41,326
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Rhiannon Hardiman
Rhif Ffôn:
01656 815080
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://www.bridgendreach.org.uk/project/kenfig-natura-2000-volunteering-educational-hub/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts