Rhwydwaith Cenhadon yr Urdd

Daeth yr angen am y prosiect o ddau le, yn gyntaf yr angen i ddatblygu’r sail gwirfoddolwyr/ cenhadon ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr, yn benodol gan nad oes timau gwybodaeth twristiaeth at gael bellach i gyllido digwyddiadau.

Yn ail, o natur proffi uchel Eisteddfod yr Urdd yn dod i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r risg i enw da’r sir yn sgil ymwelwyr a threfnwyr yn cael profiadau gwael yn ystod eu hamser yma ac, yn benodol, diffyg cynorthwywyr Cymraeg wrth law.

Roedd y gweithgareddau’n cynnwys ymgysylltu â grwpiau Cymraeg presennol i ddenu siaradwyr Cymraeg i hyfforddiant a datblygiad personol i ddod yn genhadon ar gyfer cefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr. Yn dilyn eu hyfforddiant, cynhaliwyd ymgynghoriad ag ymwelwyr ag Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai 2017 i ddysgu am eu profiadau yn yr ardal a chasglu data ar foddhad gyda’u hymweliad. Roedd eu rôl yn ymestyn y tu hwnt i hyn wrth ddarparu gwybodaeth a chymorth i ymwelwyr am eu harhosiad, gan weithredu fel cenhadon dros gefn gwlad Pen-y-bont ar Ogwr.

Bydd y gwaith paratoi hwn yn parhau i lywio gweithgarwch yn y dyfodol o dan amcan strategol 2 y Strategaeth Datblygu Lleol, sy’n ceisio datblygu profiadau a chynhyrchion ymwelwyr sy’n bodloni neu’n rhagori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid.

Yn ogystal â hyfforddiant a gweithgareddau ymgynghori, lluniwyd adnoddau i gynorthwyo’r Cenhadon yn eu rôl, gan gynnwys modiwl Diwrnod Perffaith ychwanegol gyda geiriau ac ymadroddion Cymraeg i’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg neu i brocio’r cof.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£4,990
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Pen-y-bont ar Ogwr
Cwblhau:
Thema:
2
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Sandra Lopes
Rhif Ffôn:
01656815080
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts