Sefydlwyd Fforwm Betws gyda'r nod o fynd i'r afael â phroblemau lleol a gwella pentref Betws, un o wardiau mwyaf difreintiedig Pen-y-bont ar Ogwr. Trigolion lleol yw aelodau'r Fforwm ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector hefyd. Nododd aelodau Fforwm Betws, fel cynrychiolwyr y gymuned leol, fod angen cynnal gwaith ymgynghori cwmpasu cyn creu Cynllun Datblygu Cymunedol 5 mlynedd y gellir ei gyflawni a Chynllun Gweithredu CAMPUS yn seiliedig ar 4 blaenoriaeth -
- Trafnidiaeth gyhoeddus - Gweithio gyda'r darparwr cludiant cymunedol i sicrhau bod pobl leol yn gallu cyrraedd gwasanaethau a gweithgareddau. Cysylltu â Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr i gynnig newid llwybr bws i gynnwys safle bws newydd yn y ganolfan siopa agosaf.
- Tai - Gweithio gyda'r Landlord Cymdeithasol i gynllunio datblygiadau yn y pentref yn y dyfodol
- Chwaraeon a hamdden - Gweithio gyda'r ysgol gynradd newydd i sefydlu canolfan chwaraeon ar y tir, y gall grwpiau chwaraeon ei ddefnyddio y tu allan i oriau ysgol
- Adfywio cymunedol - Gweithio gydag ymddiriedolaeth ddiwylliannol Awen i adnewyddu'r ganolfan gymunedol
Penodwyd ymgynghorydd a chynhaliwyd ymgynghoriad â phreswylwyr trwy ddulliau amrywiol – o ddrws i ddrws, annerch grwpiau cymunedol, stondin dros dro yn y ganolfan gymunedol leol, y cyfryngau cymdeithasol etc.
Yn seiliedig ar yr adborth, crewyd Cynllun Cymunedol 5 mlynedd ar gyfer Betws a Chynllun Gweithredu CAMPUS pwrpasol sy'n cyd-fynd â Chynllun Corfforaethol a Chynllun Datblygu Lleol Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr gan sicrhau bod Cynllun Betws yn cyflawni nodau strategol corfforaethol yn lleol ac yn gallu cael gafael ar ffrydiau ariannu posibl i gyflawni'r nodau hyn.
Roedd y Cynllun yn cynnwys 8 cynnig i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£4,999
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Pen-y-bont ar Ogwr
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 3
- Mesur:
-
19.219.3
Cyswllt:
- Enw:
- Sandra Lopes
- Rhif Ffôn:
-
01656815080
- Cyfeiriad e-bost:
- reach@bridgend.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts