Tir a Môr Llŷn – Land and Sea

Partneriaeth Tirwedd Llŷn sy’n arwain y prosiect cydweithredol hwn ac mae grwpiau statudol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol yn rhan ohono. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddatrys problemau sy’n effeithio ar adnoddau naturiol yn yr ardal. Mae cymunedau Pen Llŷn yn dibynnu ar eu hadnoddau naturiol ac yn elwa arnynt. 

Nod y prosiect hwn felly yw cynnal ac ehangu stribyn di-dor o gynefinoedd amrywiol ar hyd ar arfordir, gweithio gyda ffermwyr i greu coridorau i’w cysylltu â llwybr arfordir Cymru, creu cyfleoedd hamdden a chyfleoedd hybu iechyd. Bydd hefyd yn datblygu arfer da ym maes rheoli dalgylch a rheoli rhywogaethau goresgynnol, gan gynnig buddion economaidd a chymdeithasol sylweddol wrth gyplysu’r gwaith â chynlluniau i wella amaethyddiaeth ac adnoddau cymdeithasol-ddiwylliannol, fel llwybr arfordir Cymru. 

Bydd y prosiect hefyd yn ystyried y syniad o ‘dalu am ganlyniadau’ gyda chymorth tair fferm sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Y nod yw creu model ac annog y gymuned ehangach i dreialu a mabwysiadu’r dull newydd o weithredu.  Mae’r Bartneriaeth wedi datblygu dull cydweithredol o weithredu’n lleol, gan ganiatáu i bawb gydweithio i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gwaith ymarferol yn gyflym ac yn ddi-dor. Bydd y Bartneriaeth yn ennyn ymddiriedaeth ac yn annog pawb yn yr ardal i gydweithredu i roi’r prosiect ar waith. Bydd yn treulio amser yn ymgysylltu â’r gymuned ehangach drwy gynnal digwyddiadau lleol ac yn mynd i ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth o fuddion y gwaith. 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£700,000
Ffynhonnell cyllid:
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
Ardal:
Gwynedd
Cwblhau:
Tir a Môr Llŷn – Land and Sea

Cyswllt:

Enw:
Arwel Jones
Email project contact

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts