Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar dirwedd Twyni Cynffig a Merthyr Mawr yn Ne Cymru.
Nod y prosiect yw creu cydweithrediad parhaus rhwng rheolwyr y tir a’r warchodfa, tirfeddianwyr, defnyddwyr a buddiolwyr i helpu i reoli’r dirwedd arfordirol hon yn gynaliadwy er mwyn hybu bioamrywiaeth a sicrhau buddion i’r gymuned leol.
Bydd gwaith rheoli cynefinoedd yn helpu i gryfhau ecosystem y twyni a’r prif nod yw hybu bioamrywiaeth, creu cysylltedd a sefydlogrwydd gwell. Bydd y prosiect yn gwella golwg yr ardal ac yn ei gwneud yn haws i ymwelwyr ymweld â hi. Bydd arwyddion gwell ac ymgyrch i hysbysebu llwybrau cerdded ac atyniadau hefyd yn gwella profiadau ymwelwyr. Y nod yw manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd iechyd a lles drwy gynnal a chadw llwybrau cerdded hygyrch a mannau gwyrdd o safon.
Bydd y prosiect hefyd yn gyfle i weithio ar y cyd â busnesau lleol fel y clwb golff gan eu helpu i gyflawni eu huchelgais o sicrhau label ECO y GEO. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys plannu a chynaeafu coetiroedd ac ymchwilio i’r posibilrwydd o ddefnyddio coed fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy.
Fel mae’r cyfnod presennol yn dod i ben, dyma ffilm yn dathlu llwyddiannau’r prosiect Dunes 2 Dunes.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£312,541
- Ffynhonnell cyllid:
-
Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- Ardal:
-
Pen-y-bont ar Ogwr
- Cwblhau:
-
- Dunes to Dunes: Sustainable Management of Bridgend Coastal Landscape
- Dunes 2 Dunes Celebration Film
Cyswllt:
- Enw:
- Rhiannon Hardiman
- Cyfeiriad e-bost:
- Rhiannon.hardiman@bridgend.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts