Tyfu ar gyfer y Dyfodol

Growing your own

VIEW (Glyn-nedd) Cyf – Tyfu ar gyfer y Dyfodol, gan weithio mewn partneriaeth gydag ysgol feithrin leol i greu rhandir cymunedol gyda phlant, rhieni, athrawon a gwirfoddolwyr yn paratoi’r tir, adeiladu gwelyau plannu uwch lefel y ddaear a thwnnel poly i blannu ffrwythau a llysiau ynddo.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i blant a rhieni ddysgu am ‘dyfu eich bwyd eich hun’ ac ailgylchu, a bydd y prosiect hwn yn eu hannog i gael eu hysbrydoli ac ennill digon o hyder mewn lleoliad anffurfiol, heb ddim pwysau, i gymryd rhan mewn gweithgareddau garddwriaethol er mwyn gweld y rhandir yn dod yn gynaliadwy, ond hefyd er mwyn iddyn nhw fynd â’r sgiliau newydd a ddysgwyd ganddynt yn ôl i’w gerddi eu hunain.

Y nod yw defnyddio ardal nad yw’n cael ei defnyddio yn libart yr ysgol i gefnogi tyfu cynnyrch lleol a darparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd iach a hwyluso darpar ‘fenter fach’ i’r ysgol, gyda ffocws ar ailgylchu ac ailddefnyddio i leihau gwastraff. Yn ogystal, bydd yr ysgol yn derbyn pecynnau gwybodaeth ynghylch cynnal a datblygu’r ardal. Bydd y pecynnau’n cynnwys cynlluniau gwersi ar gyfer darparu addysg i’r dyfodol yn yr ysgol.

 

Saesneg yn unig

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution
£8956.61
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Castell-nedd Port Talbot
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Natalie Davies
Rhif Ffôn:
01639 721772
Email project contact
Cyfryngau cymdeithasol:

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts