Tyfu Cymunedol drwy Arddio Coedwig

Creu cymuned gref gyda phobl leol o Landeilo Ferwallt ac ardal ehangach Gŵyr a'r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid o bob rhan o'r sir drwy helpu i greu Gardd Goedwig yn Murton, Gŵyr. Mae'n bwysig bod yn gynhwysol a bod yn awyddus i gefnogi mynediad i gefn gwlad i grwpiau sydd dan anfantais  yn ogystal â datblygu'r cysylltiadau â chymdogion ein safle. Mae canlyniadau'r prosiect hwn yn cynnwys cynyddu cydlyniant cymunedol, iechyd a lles, rhannu bwyd organig gwych a dulliau ar gyfer tyfu bwyd yn gynaliadwy.

Bydd rhai gwelyau ar gyfer tyfu llysiau, rhai planhigion lluosflwydd a choed ffrwythau ifanc yn darparu bwyd am ddim a chartrefi ar gyfer natur. Tyfir bwyd blynyddol mewn modd organig gyda grwpiau dan anfantais ond gellir creu mwy o effaith gyda'r lle.

Mae aelodau o'r gymuned leol wedi dangos diddordeb, fel cymdogion sy'n byw ger y safle sydd efallai wedi ymddeol a chanddynt amser rhydd, ac am roi yn ôl i'w cymuned. Bydd y prosiect yn gweithio gyda'r gymuned hon ochr yn ochr â'r gymuned ceiswyr lloches a ffoaduriaid i helpu i adeiladu cydlyniant cymunedol.

Ceiswyr lloches a ffoaduriaid o bob rhan o ddinas a sir Abertawe - Dros y blynyddoedd mae Down to Earth wedi creu cysylltiadau cymunedol gyda rhai o'r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas. Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid wedi cymryd rhan yn y prosiectau, ac wedi rhagori ar yr hyn yr oeddent yn credu ei fod yn bosib. Mae adeiladu canolfan hyfforddiant â tho cilyddol, rheoli coetir llydanddail, cerdded a nofio ar hyd yr arfordir wedi arwain at well iechyd a lles drwy fodel cyflwyno sydd wedi'i brofi'n glinigol.

Bydd aelod o staff yn neilltuo’i amser a'i arweinyddiaeth i ehangu'r mannau tyfu, er mwyn cynhyrchu mwy o fwyd ac arloesi'r cysyniad Gardd Goedwig. Mae Gardd Goedwig yn ffordd o dyfu bwyd sy'n adlewyrchu natur, er enghraifft drwy dyfu bwyd ar haenau gwahanol fel ecosystem goetirol. Bydd Down to Earth yn creu systemau compostio i ddelio â'n gwastraff bwyd ein hunain ar y safle (y mae'n rhaid ei symud o'r safle ar hyn o bryd oherwydd problemau gyda llygod mawr). Caiff pwll ymdrochi naturiol ei greu, a allai fynd i'r afael â llifogydd lleol, cynyddu bioamrywiaeth a gwella ansawdd dŵr drwy blannu planhigion priodol yno.

Bydd y prosiect yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl wrth iddynt gymryd rhan mewn 8 sesiwn a byddai amser yn y cyfnod a ariennir i gael 6 chyfres (gall gwirfoddolwyr ddewis cynnig ymrwymiad hirach neu fyrrach) Mae'r sesiynau fel arfer yn para tua 3 i 4 awr, a cheir tua 12 o gyfranogwyr.

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£29,750
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Abertawe
Cwblhau:
Thema:
1
Mesur:
19.2
Growing community through forest gardening

Cyswllt:

Enw:
Vicki Thomson
Rhif Ffôn:
01792 636992
Email project contact
Gwefan y prosiect:
https://downtoearthproject.org.uk/

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts