Wyau Derwydd

Mae Llŷr wedi cysylltu â’r broses gynllunio ac WEDI CAEL caniatâd cynllunio i greu uned wyau maes ar gyfer 16,000 o ieir ar ei fferm i elwa ar y galw mawr am wyau maes o Gymru.  Gwelwyd gostyngiad yng nghynhyrchiant y DU yn 2019, ond oherwydd COVID a’r cynnydd yn y galw am fwyd lleol, gwelwyd cynnydd yn 2020. Penderfynwyd bod angen arallgyfeirio i ddiogelu dyfodol y fferm deuluol hon.  Mae’r uned hefyd WEDI SICRHAU contract ffurfiol â chasglwr wyau. 

A hwythau nawr yn prosesu wyau at safon uchel heb golli gormod, maen nhw am adeiladu cyfleuster modern ar gyfer prosesu wyau.  Bydd y cyfleuster yn cynnwys adeilad/uned ar gyfer llinell brosesu flaengar fydd yn cynnwys gwregys gludo gam, peiriant pacio, peiriant pentyrru, robot paletau a storfa oer ac offer i symud paletau wyau, y cyfan yn gweithio gyda chymorth ynni’r haul, ynni dŵr, pympiau gwres o’r ddaear ac ynni’r grid.  Bydd sgwriwr aer yn cael ei gosod yn yr uned ffowls i leihau effeithiau’r datblygiad.  Bydd y sgwriwr yn glanhau’r holl aer a ddaw o’r uned cyn iddo gyrraedd yr amgylchedd rhag iddo effeithio ar warchodfeydd a’r ecoleg. 

Gan ddefnyddio offer prosesu wyau arbenigol, byddan nhw’n ateb galw’r farchnad gan roi digon o elw iddyn nhw allu ehangu yn y dyfodol.  Mae gwneud busnes y teulu yn gynaliadwy ac yn ariannol gadarn fel hyn yn hanfodol i swyddi’r busnes ac i sicrhau oes hir ac olyniaeth y busnes. 
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£101,017
Ffynhonnell cyllid:
Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd
Ardal:
Sir Ddinbych
Cwblhau:

Cyswllt:

Enw:
John Adshead

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts