Members of the 2023 Agri Academy and Junior Academy programmes_

Y gwanwyn hwn, mae nifer cyn-aelodau Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn dod i gyfanswm o 300 o bobl, gyda phob un yn falch o fyfyrio ar yr amser a dreuliwyd ar raglen breswyl datblygiad personol flaenllaw Cyswllt Ffermio fel profiad amhrisiadwy. Mae rhai hyd yn oed yn ei alw'n drawsnewidiol. Mae'n hysbys bod ei fformiwla arbennig yn meithrin cyfeillgarwch dwfn ac yn sbarduno syniadau busnes a allai hyd yn oed newid cwrs eich gyrfa.

Nod yr Academi, sydd wedi’u rhannu’n ddwy garfan, sef yr Academi Amaeth ac Academi yr Ifanc yw darparu sgiliau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid y byd amaeth yng Nghymru. Mae Academi yr Ifanc wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion rhwng 16 a 21 mlwydd oed sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiant bwyd neu amaeth.

Oes gennych chi uchelgeisiau mawr ond angen help i benderfynu pa lwybr i'w gymryd? Hoffech chi fagu hyder, datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i gyflawni eich potensial fel unigolyn?

Mae galw mawr am y 24 lle sydd ar gael ar gyfer derbyniad 2024.

Mae’r Academi Amaeth yn darparu rhaglen ysbrydoledig o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys. Gallai pob elfen roi'r sylfeini cadarn sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Drwy greu cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol newydd, mae’r Academi Amaeth wedi rhoi’r hyder i unigolion anelu’n uchel a’r cymorth sydd ei angen arnynt i’w helpu i gyflawni eu nodau ar gyfer y dyfodol. Mae’r rhaglen yn gyfle i rannu syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd, i greu cysylltiadau newydd a datblygu rhwydweithiau a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd.

“Ers 2012, mae’r Academi Amaeth wedi bod yn tywys ei haelodau i ffwrdd o gysuron cartref a’i gwthio tuag at orwelion ehangach,” meddai Einir Davies, Pennaeth Sgiliau Menter a Busnes, sy’n cyflwyno’r rhaglen Cyswllt Ffermio.

“Nid oeddem am i Academi Amaeth 2024 fod yn wahanol ac rydym yn falch o allu cynnig cyfle unigryw, unwaith mewn oes i grŵp arall o bobl ifanc. Byddwn yn annog pob unigolyn ifanc sy’n gymwys ac sy’n gallu rhoi ei ymrwymiad llawn, ei amser a’i egni i’r rhaglen i wneud cais heddiw am y cyfle hwn y mae galw mawr amdano. Nawr yw eich amser.”

Agorodd y ffenestr ymgeisio ddydd Llun 26 Chwefror 2024 a bydd yn cau ddydd Llun 15 Ebrill 2024.

Am ragor o wybodaeth am raglen yr Academi Amaeth 2024, ei chynnwys, meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflen gais, cliciwch yma.