Image of Cardigan Secondary School Year 10 pupils Laurie-Beth Adderson, Rhys Monaghan, Cieran Sargi, Lily-May Noble and Amy Holmes charging their mobile phones through pedal power

Mae prosiect sy'n ceisio cael pobl ifanc i fod yn actif yn yr awyr agored drwy eu hannog i ddefnyddio beiciau i wefru eu ffonau symudol wedi cael ei lansio yn Aberteifi. Wedi’i ariannu gan Cynnal y Cardi (Cyngor Sir Ceredigion) a’i reoli gan Iechyd a Gofal Gwledig Cymru, mae’r prosiect wedi prynu 9 beic sefydlog (6 beic troelli safonol a 3 beic llaw) sydd wedi’u lleoli yn Aberteifi (Gerddi Fictoria), Aberaeron (Cae Sgwar) a Llanbedr Pont Steffan (Parc yr Orsedd).

“Y syniad y tu ôl i “Ar Eich Beic” yw annog pobl ifanc i wneud mwy o weithgarwch corfforol yn yr awyr agored, sydd wedi’i brofi i wella iechyd corfforol a theimladau o les”,

Meddai Anna Prytherch, Pennaeth Iechyd a Gofal Gwledig Cymru (RHCW).

“Yn ôl yn 2019, buom yn gweithio gyda holl ysgolion uwchradd a sefydliadau ieuenctid Ceredigion i nodi’r safleoedd gorau ar gyfer cael y beiciau a hefyd pa fathau o feiciau fyddai’n well gan bobl. Nawr bod y beiciau yn eu lle, byddwn yn gallu gweld faint y cânt eu defnyddio, faint o bŵer y maent yn ei gynhyrchu ac a yw defnydd rheolaidd yn cael effaith fuddiol. Aberteifi yw’r cyntaf i lansio’r fenter, gydag Aberaeron a Llanbedr Pont Steffan i ddilyn yn fuan.”

“Cynigiwyd y prosiect hwn i Aberteifi am y tro cyntaf yn ystod haf 2019,”

Meddai cynrychiolydd y Cyngor Tref a’r Dirprwy Faer Sian Maehrlein.

“Mae wedi cael ei ariannu’n garedig gan Cynnal y Cardi i annog trawstoriad o’n cymuned i ddod yn fwy egnïol, sy’n gallu bod yn hwyl hefyd. Oherwydd y pandemig, dim ond newydd gael ei gwblhau y mae’r prosiect hwn, ond mae’r beiciau hyn eisoes yn llwyddiant ysgubol a hoffwn groesawu’r fenter wych hon yma yng Ngerddi Fictoria.”

Yn bresennol yn y lansiad oedd y Dirprwy Faer Sian Maehrlein, y Cyng. Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio, Meleri Richards, Cynnal y Cardi, Anna Prytherch, RHCW, Cynghorwyr Tref Nick Bolton a Catrin Miles, a phlant Blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Aberteifi.

“Mae Cynnal y Cardi wedi bod yn hapus i gefnogi prosiect peilot arloesol fel hwn”,

Dywedodd y Cyng. Clive Davies, Aelod Cabinet dros yr Economi ac Adfywio.

“Rydym yn wynebu cyfleoedd, problemau a heriau wrth roi iechyd a gofal cymdeithasol darbodus ar waith mewn amgylchedd gwledig. Mae’n hanfodol felly ein bod yn datblygu gwahanol ddulliau o ddiwallu’r anghenion hynny – yn enwedig o ran gwella iechyd a lles ein pobl ifanc. Mae’r prosiect hwn wedi’i seilio i raddau helaeth ar ddull partneriaeth rhwng Iechyd Gwledig a Gofal Cymru, Cynnal y Cardi a Chyngor Tref Aberteifi. Mae’r prosiect wedi’i gefnogi fel rhan o gynllun LEADER, a ariennir gan Raglen Datblygu Gwledig Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru 2014-2020, sydd yn ei dro yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Dim ond y dechrau yw hyn ac edrychwn ymlaen at ddeall effaith y prosiect yn dilyn y cam gwerthuso”.

Yn y lansiad, a gynhaliwyd ar 14eg Tachwedd, bu disgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Aberteifi yn arddangos sut i ddefnyddio’r beiciau i wefru eu ffonau symudol ac maent wedi gwirfoddoli i gymryd rhan yng ngham nesaf y prosiect a fydd yn monitro pa mor aml y defnyddir y beiciau a sut. mae llawer o ynni yn cael ei gynhyrchu o bŵer pedal.

Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect “Ar Eich Beic” ar gael drwy gysylltu gyda Iechyd a Gofal Gwledig Cymru ar 01970-635918 neu e-bostio contact@ruralhealthandcare.wales