a habitat example

Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig yn y dasg hirdymor o brofi cynaliadwyedd ffermydd mynydd ac ucheldir Cymru drwy bennu llinell sylfaen ar gyfer bioamrywiaeth.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi sefydlu meincnod drwy gynnal nifer o archwiliadau bioamrywiaeth fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd o dan y Rhaglen Datblygu Cig Coch.

Mae’r canfyddiadau, sy’n defnyddio data o 25 o ffermydd yng Nghymru ar draws mwy na 4,000 hectar o dir, yn awgrymu bod modd cael hyd i amrywiaeth eang o gynefinoedd ar ffermydd mynydd ac ucheldir Cymru.

Nododd yr archwiliad, a wnaed gan ymgynghoriaeth ecolegol annibynnol, ddeuddeg math o gynefin allweddol – gyda glaswelltiroedd lled-naturiol, mosaigau ucheldirol, a glaswelltiroedd asidig ymhlith y rhai mwyaf cyffredin.

Wrth sefydlu'r meincnod, mae HCC wedi cymryd cam pwysig tuag at wireddu un o'i nodau hirdymor, sef hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol o fewn y diwydiant cig coch. 

Mae’r llinell sylfaen yn rhoi dealltwriaeth glir o’r ecosystemau cywrain sy’n cael eu meithrin gan ffermydd cig coch Cymru, ac mae'n atgyfnerthu’r dystiolaeth sy’n sail i frandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI.

Elfen allweddol o’r amrywiant mewn cynefinoedd fu’r cyfuniad o ddulliau cynhyrchu da byw ynghyd â chymhellion amaeth-amgylcheddol sydd wedi llunio a chynnal bioamrywiaeth wrth gynhyrchu cig coch o ansawdd uchel.

Dywedodd Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol yn HCC, Rachael Madeley-Davies: “Mae datblygu’r adroddiad hwn ar fioamrywiaeth yn gam cyntaf hollbwysig wrth i ni gyrraedd ein nod hirdymor o gynnig tystiolaeth bod ffermydd Cymru nid yn unig yn cynhyrchu cig coch o’r radd flaenaf, ond hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth ddatblygu a chynnal cynefinoedd.

“Mae pob fferm yn cyflawni llawer mwy na dim ond cynhyrchu da byw; mae popeth – o reoli tirweddau, diogelu bywyd gwyllt, gwarchod llif dŵr, a hyrwyddo llwybrau mynediad cyhoeddus – yn chwarae rhan wrth feithrin ardaloedd bioamrywiol.

“Trwy’r gwaith sylfaenol hwn, bydd gwaddol y Cynllun Hyrddod Mynydd yn cael ei gryfhau wrth i ni feithrin ymhellach y berthynas rhwng amaethyddiaeth gynaliadwy a chadwraeth ecolegol, er mwyn cynnal ecosystem ffyniannus am genedlaethau i ddod.”

Bydd y canfyddiadau’n llwyfan ar gyfer casglu data ehangach a chanolbwyntio ar ôl troed amgylcheddol cig coch Cymru, gan gynnwys carbon, ansawdd pridd, ansawdd aer, ac ansawdd dŵr.

Mae'r cam strategol hwn yn cyd-fynd â gweledigaeth hirdymor HCC i sicrhau bod Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru nid yn unig o'r ansawdd uchaf ond hefyd yn amgylcheddol gadarn a chynaliadwy.

Ychwanegodd Rachael: “Mae’n bwysig bod yr adroddiad hwn – yn hytrach na gweithredu mewn gwagle yn unig – yn gallu dangos i ffermwyr pa gamau ymarferol y gellir eu cymryd i warchod a datblygu cynefinoedd addas yn well ar gyfer y fioamrywiaeth orau.

“Mae’r wybodaeth hon yn amlygu canfyddiadau rhyfeddol ynghylch ein ffermydd mynydd ac ucheldir ledled Cymru, a hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid am eu rhan yn y prosiect hwn.”

Mae crynodeb o'r canfyddiadau yma ar wefan HCC. Bydd gwaith bioamrywiaeth yn cael ei drafod yng Nghynhadledd HCC, sy’n cael ei cynnal ar Dachwedd 9fed ar Faes y Sioe Frenhinol. Cysylltwch â HCC ar gyfer mwy o wybodaeth ac i gofrestru.

Mae'r Cynllun Hyrddod Mynydd HCC yn un o dri prosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.