Made with wool team

Bydd prosiect ledled y wlad sy'n hyrwyddo gwlân o Gymru yn dadorchuddio prototeipiau cynnyrch newydd sbon yn y Ffair Aeaf eleni yn Llanelwedd.

Dan arweiniad menter gymdeithasol Môn, mae Menter Môn, "Gwnaed â Gwlân", yn bartneriaeth gyda Gwlân Prydain, Awdurdod Profi Gwlân (WTA) a Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor.

Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i ffermwyr a chynhyrchwyr drwy ddatblygu ffyrdd arloesol o ddefnyddio gwlân fel deunydd adnewyddadwy.

Mae'r prototeipiau i'w datgelu yn y sioe, yn cynnwys cynnyrch cyfansawdd, atebion inswleiddio sain a system hydroponeg.

Drwy fynychu'r Ffair Aeaf, mae'r tîm yn gobeithio denu sylw gweithgynhyrchwyr posib i weithio gydag arbenigwyr prosiect a mynd â'r prototeipiau i'r farchnad.

Meddai Elen Parry, rheolwr prosiect Gwnaed â Gwlân: "Rydym yn gyffrous ein bod yn datguddio ein prototeipiau yn y Ffair Aeaf eleni.

"Cyflwynon ni'r prosiect yn y digwyddiad y llynedd ac ers hynny rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda ffermwyr, Prifysgol Bangor ac arbenigwyr diwydiant i ddatblygu cynnyrch newydd.

"Rydym nawr yn edrych i weithio gyda gweithgynhyrchwyr ac entrepreneuriaid i wneud y prototeipiau'n fasnachol hyfyw.

Mae'r gost cneifio wedi bod yn uwch na'r pris mae ffermwyr yn ei gael am gnu ers peth amser.

"A gyda mwy o ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â'r amgylchedd a'r hinsawdd, mae angen i ni hefyd gymryd cyfrifoldeb am wneud mwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy ac i edrych ar ffyrdd newydd o ddefnyddio deunyddiau naturiol fel gwlân.

"Mae'r ffactorau hyn yn allweddol i'r prosiect Gwnaed â Gwlân, ac rydym yn credu y gellir eu defnyddio i fod o fudd i'w gilydd."

Ychwanegodd Dr Graham Ormondroyd o Brifysgol Bangor, a arweiniodd ar y gwaith o ddatblygu un o'r prototeipiau: "Rydym wedi ymgymryd â blynyddoedd o ymchwil i'r defnydd o wlân fel puriwr aer.

"Bydd y prosiect yn dod â'r ymchwil i gasgliad posibl ac yn darparu cynnyrch parod i'r diwydiant.

"Mae treialon wedi bod ar fynd gyda'r prototeip presennol a osodwyd o amgylch y Brifysgol gyda llwyddiant mawr.

"Rydym nawr yn edrych ymlaen at weld y cynnyrch yn cael ei ddatblygu'n fasnachol."

Gellir gweld y prototeipiau yn Neuadd De Morgannwg yn ystod y sioe gyda'r tîm prosiect, a Dr Ormondroyd wrth law i ateb ymholiadau a thrafod cyfleoedd datblygu.

Bydd y project hefyd yn arddangos prototeipiau a ddatblygwyd gan fyfyrwyr o Adran Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor.

Bydd cyfle hefyd i gwrdd â chyd-sylfaenwyr 'Wool Insulation Wales Ltd', cwmni newydd luniwyd, a wnaeth y prosiect helpu i ddod ag ef at ei gilydd i drafod sut y maent yn bwriadu gwneud gwahaniaeth i bris gwlân i ffermwyr Cymru.

Mae'r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.