Arfor Logo

Mae cyfres o ymyriadau i gefnogi cymunedau Cymraeg i ffynnu yn economaidd fel rhan o raglen 3 blynedd ARFOR Llywodraeth Cymru gwerth miliynau o bunnoedd wedi cael ei datgelu gan Weinidog yr Economi Vaughan Gething a Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd heddiw.

Mae ARFOR yn rhan o Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Plaid Cymru. Mae'n adeiladu ar brofiad a gwerthusiad y rhaglen ARFOR gynharach a lansiwyd yn 2019.

Mewn digwyddiad lansio gydag Arweinwyr Cynghorau Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr, amlinellodd Gweinidog yr Economi a’r Aelod Dynodedig y rhaglen a fydd yn cael ei chyflwyno gan yr awdurdodau lleol gyda’r nod o gryfhau cadernid economaidd cadarnleoedd Cymraeg – a chreu swyddi i gefnogi'r iaith.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i bedwar awdurdod lleol Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin, yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys pwyslais ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd, i'w galluogi i aros yn eu cymunedau cartref neu ddychwelyd iddynt.

Wrth lansio'r rhaglen, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Gallai ARFOR 2 wneud gwahaniaeth sylweddol yn ein cadarnleoedd Cymraeg, trwy fwrw ymlaen â'n huchelgais o ledaenu ffyniant economaidd ledled Cymru. 

Trwy weithio gyda'n hawdurdod lleol partner, rydym am gefnogi cymunedau sy'n gadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu drwy ymyriadau economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol.

Dywedodd yr Aelod Dynodedig, Cefin Campbell:

ARFOR yn rhaglen gyffrous i gefnogi a thyfu'r economi leol a'r Gymraeg gyda'i gilydd. Trwy fuddsoddi yn y meysydd hyn, byddwn yn annog ac yn galluogi entrepreneuriaeth ac yn helpu busnesau i dyfu. Bydd hyn yn cefnogi cymunedau bywiog a ffyniannus. Mae'n wych cael bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol i dynnu sylw at y rhaglenni a gefnogir gan ARFOR, prosiect allweddol sydd wedi'i alluogi gan y Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru.

Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog â Siop Griffiths, sef menter gymunedol ym Mhenygroes, Dyffryn Nantlle a dderbyniodd arian gan ARFOR 1 ac sydd wedi helpu i greu atebion lleol i'r heriau sy'n wynebu Dyffryn Nantlle ac i roi cyfleoedd i bobl ifanc aros a ffynnu yn eu cymuned.  Enillodd y fenter Wobr Dewi Sant yn 2022 am Ysbryd Cymunedol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Siop Griffiths Cyf., Ben Gregory:

Mae'r gefnogaeth gan Raglen ARFOR wedi helpu Siop Griffiths i greu swydd newydd - Rheolwr Gwasanaethau - ac mae'n ein helpu i gryfhau ein gwasanaethau a chynyddu ein hincwm.

Yn y tymor hir rydym yn anelu at gynyddu nifer y swyddi a'r gwasanaethau sydd oll yn gweithredu drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cael eu cynnig i'r cyhoedd yn ddwyieithog. Mae Rhaglen ARFOR hefyd yn ein helpu i gysylltu â mentrau cymdeithasol o'r un anian, lle gallwn ddysgu ar y cyd am y ffordd orau o gefnogi a chryfhau'r defnydd o'r Gymraeg.

Mae pum ffrwd waith fel rhan o raglen ARFOR - sef:

  1. Llwyddo'n Lleol 2050: cynllun i bobl ifanc a theuluoedd ifanc dan 35 oed gael cyfleoedd gwaith a phrofiadau a all annog pobl i aros yn eu cymunedau brodorol neu ddychwelyd iddynt. Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr i fod yn rhan o'r cynllun. Gweinyddir y gefnogaeth hon gan Menter Môn mewn partneriaeth â Menter a Busnes. Bydd £3 miliwn yn cael ei fuddsoddi i weithredu'r prosiect. Mae mwy o fanylion ar gael Rhaglen ARFOR.
  2. Cymunedau Mentrus - cronfa sy'n cynnig cymorth i fentrau preifat / cymunedol / cymdeithasol i ddatblygu gwasanaethau / cynhyrchion newydd o fewn cymunedau gyda'r bwriad o ddatblygu'r economi leol a chynyddu gwelededd y Gymraeg. Am fwy o fanylion ewch i Rhaglen ARFOR.
  3. Cronfa Her - pecyn o gymorth i gwrdd â heriau lleol a rhanbarthol Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd unigolion sydd â syniadau arloesol i gwrdd â heriau economaidd Rhanbarth ARFOR yn cael cyfle i wneud cais am gymorth ariannol. Bydd £2.6 miliwn yn cael ei fuddsoddi i weithredu'r prosiect a fydd yn cael ei gyflawni gan Menter Môn mewn partneriaeth â Menter a Busnes
  4. Monitro, Gwerthuso a Dysgu - Penodwyd Wavehill i fonitro a gwerthuso Rhaglen ARFOR, gan nodi'r hyn rydym wedi'i ddysgu o'r cysylltiad rhwng yr economi leol a'r Gymraeg. Mae'r gwaith hwn yn ei gamau cynnar ond i wybod mwy, ewch i Rhaglen ARFOR.
  5. Mae Bwrlwm ARFOR yn ymwneud â sut mae busnesau'n defnyddio'r Gymraeg a'r budd o wneud hynny. Mae'r tendr ar gyfer y gwaith hwn bellach yn fyw. Am fwy o wybodaeth, ewch i Rhaglen ARFOR. Bydd y cyfnod ymgeisio yn cau ar 14 Awst.

Yn dilyn y lansiad, bydd trafodaeth banel dan gadeiryddiaeth Llŷr Roberts, Menter a Busnes a chyfle i wrando ar banel profiadol yn trafod heriau lleol a rhanbarthol a sut y gall y Rhaglen ARFOR gefnogi rhai o'r heriau hyn. Bydd y panel yn cynnwys y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd; Lowri Gwilym, CLlLC; Endaf Griffiths o gwmni Wavehill a Dr Elin Hâf Gruffudd Jones, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.