Livestock from a previous Farming Connect Demonstration Site

Mae astudiaeth Cyswllt Ffermio ar allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) a gynhyrchir gan fentrau cig coch wedi dangos bod ffermydd Cymru yn is na’r meincnod ar gyfer ffermydd tebyg ar draws y DU. 

Cynhaliwyd archwiliad carbon manwl ar fusnes 185 o ffermydd Cymru drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio yn ystod y rhaglen flaenorol ac mae’r rhain wedi cynhyrchu canlyniadau calonogol. 

Roedd allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchwyd gan y mentrau bîff ar y ffermydd hyn 17% yn llai na’r ffigwr meincnod ar gyfer buchod sugno sy’n lloia yn y gwanwyn yn yr ucheldir a gyhoeddwyd yn Llawlyfr Rheoli Ffermydd 2022/23, sydd yn cynrychioli  ffermydd ledled y DU. 

Ar 35.61kg CO2 e/kg pwysau marw (DW), roeddent hefyd 5.7% yn llai na'r ffigwr meincnod carbon ar gyfer buchod sugno sy'n lloia yn y gwanwyn ar dir isel ledled y DU. 

Ar gyfer mentrau defaid, roedd y ffigwr o 29.89 kg CO 2 e/kg DW oen ar gyfartaledd 9.3% yn is na’r ffigwr meincnod ar gyfer diadell o famogiaid mynydd a 2.9% yn llai na’r meincnod ar gyfer diadell o famogiaid croesfrid. 

Yr hyn a ddangosodd yr astudiaeth oedd amrywiad mawr yng nghyfanswm yr allyriadau fesul cilogram o gynnyrch ar gyfer pob menter, ond rhoddodd dadansoddiad pellach resymau clir yn y rhan fwyaf o achosion dros y gwerthoedd sylweddol uchel ac isel. 

“Roedd yn amlwg nad oedd unrhyw gydberthynas rhwng maint y fferm a chyfanswm yr allyriadau fesul allbwn,” meddai Non Williams, Swyddog Carbon Arbenigol Cyswllt Ffermio . 

Methan oedd cyfran fawr o gyfanswm yr allyriadau a gynhyrchwyd gan ffermydd bîff a defaid, a oedd yn deillio o eplesiad enterig. 

Defnyddiwyd un cyfrifiannell carbon fferm ar gyfer yr astudiaeth er mwyn sicrhau cysondeb â’r ffermydd meincnod gan fod yr offeryn hwn hefyd wedi’i ddefnyddio ar y ffermydd meincnod. Defnyddiwyd offer cyfrifo carbon eraill i gwblhau archwiliad carbon ar gyfer ffermydd y tu hwnt i sampl yr astudiaeth, gyda’r offeryn yn cael ei ddewis gan y ffermwr a’r ymgynghorydd unigol a oedd yn cefnogi’r gwaith. 

Darparodd yr archwiliadau carbon wybodaeth bwrpasol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr fferm gyfan pob busnes, hyd at yr adeg pan adawodd y cynnyrch giât y fferm. Rhoddwyd amcangyfrifon o atafaelu carbon hefyd. 

Rhoddwyd amcangyfrifon i'r ffermwyr dan sylw o'r carbon a atafaelwyd ar eu ffermydd gan bridd, coed a gwrychoedd yn eu hadroddiadau. 

Roedd ganddynt hefyd argymhellion ynghylch mesurau ymarferol y gallent eu cymryd i leihau cynhyrchiant nwyon tŷ gwydr ymhellach a gwella lefelau dal a storio carbon. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys gwella iechyd y fuches a’r ddiadell, rheoli tail a mabwysiadu dulliau llai o drin tir ar gyfer ail-hadu. 

“Bydd hyn yn helpu busnesau fferm Cymru i wella effeithlonrwydd yn ogystal â helpu i weithio tuag at dargedau 'sero net','' meddai Dr Williams. 

Bydd rhaglen Trosglwyddo Gwybodaeth newydd Cyswllt Ffermio, a ddechreuodd ar 1 Ebrill 2023, yn parhau i gynnig cymorth i fusnesau fferm a thir yng Nghymru. 

Gall y Gwasanaeth Cynghori newydd gynnig hyd at 90% o gyllid i bob busnes cymwys tuag at gyngor annibynnol a chyfrinachol hyd at uchafswm o £3,000. 

Gallai hyn gynnwys archwiliad carbon gydag argymhellion ar sut y gellid cyflawni gostyngiadau o bosibl, megis trwy wella rheolaeth pridd a dal a storio a thrwy iechyd ac effeithlonrwydd anifeiliaid. 

Er bod yr astudiaeth hon yn adlewyrchiad calonogol iawn o’r sector cig coch yng Nghymru, mae'n pwysleisio bod lle i wella o hyd. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig ystod lawn o wasanaethau i gynorthwyo ffermwyr Cymru i leihau ôl troed carbon eu cynnyrch. 

“Mae cyngor pellach ar gael i edrych yn fanylach ar rai o’r argymhellion, megis samplo pridd a Chynllunio Rheoli Maetholion,’’ meddai Dr Williams.

SAC Consulting, 2022. Y Llawlyfr Rheoli Ffermydd 2022/2023. Ar gael ar: https://www.fas.scot/downloads/farm-management-handbook-2022-23/.