equipment to test tenderness

Mae defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf yn helpu ffermwyr yng Nghymru i ddiogelu enw da cynnyrch enwocaf y wlad – Cig Oen Cymru.

Caiff breuder y cig ei asesu mewn treialon yn Aberystwyth, sef y cam diweddaraf ym Mhrosiect Ansawdd Cig Oen Cymru, sy'n cael ei arwain dros gyfnod o bum mlynedd gan Hybu Cig Cymru a'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'r UE. Defnyddir y prosiect i wneud Cig Oen Cymru PGI yn well byth i'w fwyta, a bydd y canlyniadau a ddisgwylir ddiwedd y flwyddyn, yn cael eu defnyddio i hybu ansawdd ac enw da Cig Oen Cymru PGI fwyfwy fel un o'r brandiau gorau yn y byd.

Wrth fesur breuder yn wyddonol, defnyddir dull croesrym, sef Shear Force Warner-Bratzler, sy'n cael ei gydnabod ledled y byd, ac mae’r dadansoddiad yn cael ei wneud gan IBERS ac AberInnovation ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae'r breuder yn cael ei fesur gan offer, sy'n golygu mesur faint o rym sydd ei angen i dorri drwy samplau  – o'r un maint yn union – o gig wedi ei goginio.

Mae'r dadansoddiad yn rhan o astudiaeth ehangach sy'n cynnwys cyfuniad o flasu gan baneli o ddefnyddwyr a mesuriadau gwyddonol i bennu breuder, suddlonder, blas, sawr a'r mwynhad cyffredinol a ddaw o fwyta samplau amrywiol o gig oen wedi'i goginio. Caiff y gwerth maethol ei ddadansoddi, hefyd.

Y nod yw mireinio'r elfennau hynny o gynhyrchu a phrosesu cig oen sy'n dylanwadu ar freuder. Ynghyd â blas, breuder yw un o’r ffactorau pwysicaf sy’n rhoi boddhad i'r defnyddiwr ac sy'n arwain at ailbrynu; roedd dros 75% o aelodau'r paneli defnyddwyr dros 45 oed yn credu bod breuder yn ‘bwysig iawn’ wrth brynu cig oen.

Eglurodd Uwch Swyddog Ansawdd Cig HCC, Elizabeth Swancott:

“Caiff y lwyn ôl ei ddefnyddio ar gyfer prosiect Shear Force, sy'n golygu bod modd cymharu breuder cig o sawl gwahanol deip o oen. 

“Bydd gennym gyfanswm o 288 o samplau o lwyn ôl Cig Oen Cymru PGI, wedi’u dadansoddi gan y prosiect, a byddwn yn gwybod beth yw'r breuder nodweddiadol. 

“Rydym bellach hanner ffordd drwy'r prosiect o ran dadansoddi samplau. Cafwyd samplau o gig oen o 26 o ffermydd ledled Cymru ac rydym wedi cydweithio â phedwar prosesydd mawr ar draws Cymru er mwyn bod yn integredig oddi mewn i'r gadwyn gyflenwi.”

Bydd canlyniadau prosiect Shear Force yn cael eu cyfuno â sgoriau paneli blasu blaenorol i ddeall effaith breuder. Erbyn diwedd y prosiect bydd 2,000 o ddefnyddwyr wedi profi blas saith sampl o gig oen yr un.
Mae trylwyredd gwyddonol y treialon  yn elfen arall eto yn hanes a datblygiad Cig Oen Cymru. Bydd y wyddoniaeth ynghylch y breuder, yn ogystal â'r blas, yn helpu i atgyfnerthu'r neges fod Cig Oen Cymru ymhlith y gorau yn y byd.
Mae’r Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru gan HCC yn un o dri phrosiect pum-mlynedd yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.