SFS Consultation

Cyhoeddir heddiw [dydd Iau, 14 Rhagfyr] yr ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y prif gynllun cymorth i ffermwyr yng Nghymru o 2025. Ei nod yw gwneud ffermwyr Cymru yn arweinwyr byd mewn ffermio cynaliadwy. Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i weld rhestr o leoliadau a dyddiadau ar gyfer Digwyddiadau Gwybodaeth Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw diogelu systemau cynhyrchu bwyd, sicrhau bod ffermwyr yn parhau i ffermio'r tir, diogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael ar fyrder â'r argyfyngau hinsawdd a natur.

Bydd y Cynllun yn cefnogi ffermwyr i fod yn fwy effeithlon a chydnerth, er mwyn iddynt allu ymateb i ofynion newidiol defnyddwyr a chystadlu mewn economi fyd-eang sy'n datgarboneiddio.

Cafodd y cynigion hyn eu llywio gan yr adborth a gawsom gan ffermwyr a'r diwydiant ehangach mewn tri ymgynghoriad ac yn nau gam y broses gydlunio.

Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud am y cynllun tan ar ôl yr ymgynghoriad terfynol hwn.

Mae newidiadau wedi'u gwneud i'r Cynllun mewn ymateb i'r adborth hwn gan gynnwys sicrhau bod y cynllun ar gael i bob ffermwr yng Nghymru o 2025 ymlaen, cyflwyno'r gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol fesul cam a sicrhau bod y gweithredoedd yn gymesur ac yn briodol i ffermio yng Nghymru.

Mae hyn yn cynnwys newid y cynnig ynghylch y gofyn i neilltuo o leiaf 10% o'r tir ar gyfer coed a bioamrywiaeth.   

Mae'r 17 o Weithredoedd Cyffredinol, fydd yn cefnogi camau sy'n mynd y tu hwnt i'r gofyn cyfreithiol, wedi'u cynllunio i helpu ffermwyr i wneud y gorau o'u hadnoddau ac yn sail i weithredu pellach.

Mae Gweithredoedd Cyffredinol yn cynnwys:

  • gweithio gyda'ch milfeddyg i wella iechyd eich anifeiliaid a bioddiogelwch.
  • cwblhau hunanasesiad blynyddol i wella perfformiad y busnes a'ch perfformiad amgylcheddol.
  • datblygu perthi/gwrychoedd i fod yn rhwystr trwchus na all stoc fynd trwyddo sydd hefyd yn darparu cysgod gwerthfawr, ac yn gynefin pwysig i fywyd gwyllt.
  • cynnal y coetiroedd sy'n bod i sicrhau'r manteision gorau posibl i dda byw a bywyd gwyllt ac o ran arallgyfeirio'r busnes.
  • rheoli mawnogydd sydd wedi'u newid yn fawr i ddiogelu stociau carbon y pridd.

Er nad yw'r ymgynghoriad yn cynnwys cyfraddau talu, mae'n cynnig darparu Taliad Sylfaenol Cyffredinol i ffermwyr ledled Cymru am gynnal y Gweithredoedd Cyffredinol ar eu ffermydd.

Bwriad y Taliad Sefydlogrwydd yw helpu ffermwyr i gamu o'r BPS i'r Cynllun, drwy sicrhau dilyniant i'w hincwm. Cynigir bod y BPS yn dod i ben yn raddol erbyn 2029, gyda newidiadau  i reolau'r BPS a gostyngiad blynyddol yn y taliad.

Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

Rwy'n falch o gael cyhoeddi'r ymgynghoriad terfynol ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy heddiw.  Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r broses hyd yn hyn.

Rydym yn wynebu llawer o heriau gan gynnwys amodau ariannol anodd, yr argyfwng hinsawdd a natur a'i effaith ddifrifol ar ein gallu i gynhyrchu bwyd hanfodol.

Ni ellir gorbwysleisio'r angen i ddelio â'r argyfwng hinsawdd a natur ar frys.

Rydym wedi gweld yn uniongyrchol effaith patrymau tywydd eithafol fel sychder a llifogydd, ar ffermydd.  Bydd y digwyddiadau hyn ond yn dod yn amlach a nhw yw'r bygythiad mwyaf i'n gallu i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.

Dyna pam mae'n rhaid i ni sicrhau bod y gefnogaeth i'r diwydiant yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r broblem hon, fel bod ffermwyr Cymru'n gallu ei gwrthsefyll ac yn gallu parhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy. 

Mae bod yn gydnerth ac yn gynaliadwy yn golygu gallu addasu i dystiolaeth newydd, blaenoriaethau newydd a heriau newydd. Mae'r Cynllun yn rhoi fframwaith clir a thymor hir y gall pob un ohonom ddod yn gyfarwydd ag ef, ond a fydd yn datblygu mewn byd sy'n newid.

Wrth gyrraedd y pwynt hwn gyda'r SFS, nid ydym erioed wedi trafod mor fanwl â'n ffermwyr a'n rhanddeiliaid. Rydym am glywed eich barn eto a dwi am annog pawb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pwysig hwn.  Ni fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar yr SFS tan ar ôl cynnal yr ymgynghoriad hwn ac ystyried yr ymatebion iddo.

Er nad yw’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy cyfan wedi’i gynnwys mae’r cynnig i gynnal y taliadau sefydlogrwydd a fydd ar gael ar ôl y tymor hwn o’r Senedd a’r cyfnod pontio yn rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Plaid Cymru.